Mae galw mawr am raddedigion nyrsio Prifysgol Glyndŵr gan ddarparwyr gofal iechyd.
Wedi’u cymeradwyo gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, bydd y cyrsiau gradd cyn-cofrestru yn eich cymhwyso i fod yn ymarferwyr myfyriol sy’n gallu defnyddio’r sylfaen o dystiolaeth i gyflenwi gofal diogel, effeithiol a thosturiol.
Wedi’u haddysgu gan athrawon nyrsio cofrestredig profiadol gyda chymwysterau uwch arbenigol, mae’r cyrsiau BN (Anrh) hyn yn rhannu rhaglen sylfaen gyffredin cyn i chi fynd ymlaen i arbenigo mewn iechyd oedolion neu iechyd meddwl. Wedi’u cefnogi gan ddynwaredu clinigol, mae’r cyrsiau hyn yn cynnig lleoliadau mewn ystod eang o leoliadau gofal er mwyn rhoi profiad ehangach i chi.
Mae’r cyrsiau ôl-gofrestru yn eich galluogi fel gweithwyr proffesiynol i wella eich rhagolygon gyrfaol neu symud ymlaen i feysydd ymarfer newydd. Mae gan y cyrsiau i gyd elfen seiliedig-ar-ymarfer neu gysylltiedig i hybu sgiliau dysgu a datblygu mewn sefyllfaoedd go iawn.
Darperir ar gyfer pob lefel o gyflawniad, gyda chyrsiau lefel diploma a thystysgrif i helpu i wella gyrfaoedd cynorthwywyr iechyd a gofal cymdeithasol, a chyrsiau uwchraddedig o MSC mewn Gofal Lliniarol Rhyngddisgyblaethol i MA mewn Cwnsela a Ffisiotherapi.
Mae hyblygrwydd yn allweddol, gyda’r rhan fwyaf o’r cyrsiau ar gael yn rhan-amser i gydfynd ag ymrwymiadau gwaith a theulu, a sawl un yn cynnig modiwlau cyfnewidiadwy fel y gallwch greu rhaglen wedi’i theilwra’n arbennig.
Ceir cymorth i ariannu eich astudiaethau hefyd, â myfyrwyr cyn-cofrestru yn gymwys ar gyfer bwrsari nad yw’n dibynnu ar brawf modd a thalu ffioedd hyfforddi, a gall myfyrwyr ar rai cyrsiau cyn-cofrestru sy’n gweithio yng Nghymru wneud cais i’r brifysgol a chyflogwr GIG am le wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru.