Ynglŷn â’r Cyrsiau
O fewn yr adran Astudiaethau Teulu a Phlentyndod mae gennych ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi, yn amrywio o astudiaeth ran-amser a llawn amser i opsiynau e-ddysgu.
Dyma’r cyrsiau sydd gennym ar gynnig ar hyn o bryd:
BA (Anrh) Astudiaethau Addysg a Phlentyndod
Mae’r radd hon ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn gweithio gyda phlant a theuluoedd mewn lleoliadau addysg ffurfiol ac anffurfiol. Mae’r rhaglen astudio yn gyfuniad o astudiaeth academaidd a phrofiad gwaith. Ceir elfennau addysgol ffurfiol ac anffurfiol, megis y Cyfnod Sylfaen a’r Cwricwlwm Cenedlaethol a ffactorau sy’n effeithio ar ddysgu ac addysgu. Mae’n cynnig llwybr amgen i addysgu, tra’n cadw opsiynau ar agor ar gyfer cyfleoedd gyrfaol eraill sy’n ymwneud â gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd .
BA (Anrh) Astudiaethau Teulu a Phlentyndod
Mae’r gymuned, plant a theuluoedd wrth graidd y cwrs yma. Gydag astudiaeth academaidd a phrofiad gwaith mewn amrywiaeth o leoliadau cymunedol, byddwch yn ennill dealltwriaeth ardderchog o faterion yn ymwneud â phlant, pobl ifanc a theuluoedd. Mae’r rhaglen yn rhoi cyfle i astudio agwedd ‘plentyn-cyfan’ a’u datblygiad cyfannol. Mae gan y radd agwedd amlasiantaethol sy’n cynnwys ymchwilio i’r ddeinameg newidiol o fewn teuluoedd a chymunedau. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnig llwybr amgen i Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) y blynyddoedd cynnar.
FdA Gofal ac Addysg Plentyndod Cynnar
Mae’r radd sylfaen yma yn gydnabyddiaeth ac yn ddathliad o’r cyfoeth o brofiad a gwybodaeth y mae ymarferwyr blynyddoedd cynnar yn ei gyfrannu i astudiaeth academaidd. Mae’r radd wedi’i hamcanu at ymarferwyr sydd mewn cyflogaeth ond sy’n dymuno astudio ar gyfer gradd tra’n gweithio. Ei nod yw cyfuno sgiliau a gwybodaeth ymarferol ymarferwyr profiadol gydag astudiaeth academaidd gyfredol yn y maes.
Mae’r FdA mewn Plentyndod Cynnar, Gofal ac Addysg yn radd sylfaen gyffredinol a gynlluniwyd i gynyddu gwybodaeth ymarferwyr am blant rhwng tair ac wyth oed. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio’n gryf ar y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 1. Addysgir y cwrs ar y cyd gan Goleg Iâl a Phrifysgol Glyndŵr. Mae’r radd sylfaen yn cwmpasu ystod o bynciau gan gynnwys datblygiad plant, chwarae, datblygu cwricwlwm, arsylwi a gweithio amlasiantaethol.
FdA Dysg a Datblygiad Babanod a Phlant Bach
Mae’r cwrs yma yn radd sylfaen arbenigol sy’n amcanu i gynyddu gwybodaeth ymarferwyr am blant rhwng genedigaeth a phum mlwydd oed. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio’n gryf ar yr ystod o enedigaeth i dair oed gan edrych ar bynciau perthnasol megis Ymlyniad, Chwarae, Perthnasau, yr Amgylchedd Gofal Plant ac Iechyd a Lles. Mae’r FdA yn gwneud defnydd o arfer gorau o’r Cyfnod Sylfaen. Cynigir y cwrs yma yn gyfan gwbl o bellter trwy e-ddysgu, gan alluogi dysgu hyblyg ond â chefnogaeth lawn.
