Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Ymchwil

O fewn yr Adran Astudiaethau Teulu a Phlentyndod ceir diwylliant ffyniannus, yn cwmpasu ystod eang o feysydd mewn Astudiaethau Teulu a Phlentyndod.

Paula Hamilton

Ymarfer Cymhwysol

Mae diddordeb ymchwil Paula mewn amryw o faterion sy’n gysylltiedig â chynhwysiad, amrywiaeth a lles, yn enwedig o fewn lleoliadau addysgol. Mae ei hastudiaeth PhD (2007 hyd at 2011), a ganolbwyntiodd ar gynnwys plant gweithwyr mewnfudol mewn ysgolion cynradd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, yn gwneud defnydd o’r meysydd canlynol o astudiaeth academaidd: addysg gynhwysol; pontio addysgol; caffael ail iaith; partneriaethau ysgol a chartref; rhagfarn hiliol a hyrwyddo dealltwriaeth plant o amlddiwylliant ac agweddau ar amrywiaeth.

Karen Southern

Datblygiad Gweithlu 

Mae diddordeb ymchwil Karen mewn asesu a gwella ansawdd o fewn lleoliadau plant a theuluoedd. Mae ganddi ddiddordeb hefyd mewn codi proffil ac ansawdd cymwysterau a hyfforddiant ar gyfer ymarferwyr o fewn y sector plant a theuluoedd. Mae astudiaeth PhD bresennol Karen yn canolbwyntio ar y canfyddiadau o ansawdd mewn gwasanaethau gofal dydd. 

Liz Sheen 

Technoleg

Mae diddordebau ymchwil Liz yn y defnydd o dechnoleg er mwyn cefnogi dysg a datblygiad plant ac oedolion fel ei gilydd. Wrth weithio gydag oedolion, mae Liz yn astudio’r defnydd o dechnoleg i alluogi myfyrwyr anhraddodiadol i gyrchu dysg â chefnogaeth lawn. Mae ei PhD yn edrych ar ganfyddiadau ymarferwyr o’r defnydd o dechnoleg gyda phlant dan bump oed. 

Ruth Davies 

Dosbarth Awyr Agored 

Nod prosict ymchwil Ruth yw ymchwilio, o fewn ystod o leoliadau Cyfnod Sylfaen, i’r modd y mae’r dosbarth awyr agored yn cael ei ddefnyddio gan blant ac ymarferwyr ac i ganfod y pwysigrwydd y mae plant, rhieni ac ymarferwyr yn ei roi ar yr awyr agored. 

Yn sgîl adolygiad beirniadol o ymchwil y llywodraeth a llenyddiaeth yn y maes hwn, yn ogystal ag archwiliad i ymarfer addysgol, y gobaith yw yn gyntaf i sefydlu i ba raddau y mae’r amgylchedd dysgu yma o fantais i gyfranddeiliaid; yn ail, ymroddiad oedolion i elwa ar lawn botensial y dosbarth awyr agored; yn drydydd, rheolaeth yr amgylchedd dysgu yma gan ymarferwyr.
Sefydliadau Prifysgol