Staff
Ar hyn o bryd mae yna wyth aelod llawn amser yn cynrychioli ystod o wahanol feysydd ac arbenigedd ym maes Astudiaethau Teulu a Phlentyndod.
|
Rhydych chi yma:
Hafan > Sefydliadau Prifysgol > Iechyd, Gwyddorau Meddygol a Chymdeithas > Astudiaethau Teulu a Phlentyndod > Staff
|
||
|
|
StaffAr hyn o bryd mae yna wyth aelod llawn amser yn cynrychioli ystod o wahanol feysydd ac arbenigedd ym maes Astudiaethau Teulu a Phlentyndod. Mae Duane Chong yn Uwch Ddarlithydd mewn Astudiaethau Teulu a Phlentyndod ers cael ei benodi ddiwedd 2010. Cyn hynny bu Duane yn gweithio yn y sector addysg gymunedol am nifer o flynyddoedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bu’n arwain y Grŵp Rhwydwaith Gweithredu Cadarnhaol amlasiantaethol i hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer recriwtio gweithwyr gofal plant anhraddodiadol. Symudodd Duane i weithio yn yr awdurdod lleol ar adeg pan oedd gwasanaethau blynyddoedd cynnar yn cael eu datblygu a’u hehangu yn sylweddol, gan gydlynu datblygiad rhaglen leol Cychwyn Cadarn. Mae Ben Tawil yn Uwch Ddarlithydd a thiwtor derbyn yn yr adran Astudiaethau Teulu a Phlentyndod gyda diddordeb penodol mewn plentyndod a chwarae. Cyn hynny bu Ben yn gweithio i Chwarae Cymru fel swyddog datblygu cenedlaethol i Gyngor Dosbarth Metropolitaidd Bradford fel rheolwr datblygu’r maes chwarae antur a chwarae datgysylltiedig ym maes chwarae antur The Venture yn Wrecsam. Kate Wagner Cafodd Kate Wagner BSc (Anrh) mewn Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol ac Uwch Ddiploma Uwchraddedig mewn Gweithdrefnau Gweinyddol cyn cwblhau’r Arholiad Proffesiynol Cyffredin ac Arholiad Terfynol Cymdeithas y Gyfraith gan gymhwyso ac ymarfer fel cyfreithiwr. Mae Paula Hamilton yn arweinydd y rhaglen radd BA (Anrh) mewn Astudiaethau Plentyndod ac Addysg. Mae ganddi radd Baglor mewn Addysg (Anrhydedd) a Meistr mewn Addysg (Addysg Gynradd ac Addysg Gynhwysol). Yn y 1990au bu’n gweithio ym Mhrifysgol Fetropolitaidd Manceinion, yn gweithio ar ymchwil gysylltiedig ag Ysgolion Hybu Iechyd. Yno enillodd radd Meistr mewn Athroniaeth a Diploma Cenedlaethol mewn Astudiaethau Iechyd Cymunedol. Bu Paula yn gweithio yn y sector addysg ôl-16 yn darlithio ar ystod o raglenni yn ymwneud ag astudiaethau iechyd, cymdeithasol a phlentyndod. Mae ganddi ddiddordeb penodol mewn iechyd a lles plant, pobl ifanc a theuluoedd, ac mewn cynhwysiad/amrywiaeth. Ym mis Ionawr 2011, enillodd radd PhD yn canolbwyntio ar y modd y mae plant Dwyrain Ewrop wedi setlo a chael eu cynnwys mewn ysgolion cynradd yng Ngogledd Cymru. Mae Paula wrthi ar hyn o bryd yn ysgrifennu erthyglau, cysylltiedig â’i thesis PhD, ar gyfer erthyglau a adolygir gan gymheiriaid. Ei cham nesaf fydd ymgymryd â goruchwyliaeth MPhil a PhD. Karen Southern Mae Karen Southern yn arweinydd rhaglen y radd BA (Anrh) mewn Astudiaethau Teulu a Phlentyndod, a ddechreuodd ei swydd gyda Phrifysgol Glyndŵr ym mis Ionawr 2005. Cymhwysodd fel nyrs feithrinfa yn y 1980au cynnar a bu’n gweithio mewn a rheoli ystod o leoliadau, yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd, yng Ngogledd Orllewin Lloegr, yn gysylltiedig â gwasanaethau cymdeithasol, addysg, arolygu a chofrestru. Ym 1995 symudodd i faes addysg bellach, gan addysgu/hyfforddi gweithwyr proffesiynol yn y gweithlu addysg, blynyddoedd cynnar a theuluoedd. Mae wedi bod yn arweinydd rhaglen nifer o raglenni o fewn y meysydd hyn gan gynnwys NVQ; HND/C; Tystysgrif mewn Addysg a TAR ar gyfer addysg ôl-orfodol. Mae ganddi radd BA (Anrh) mewn Addysg a Hyfforddiant; Diploma Uwchraddedig mewn Rheolaedd Addysgol ac MA mewn Addysg (Arweinyddiaeth). Mae ffocws ei hymchwil PhD yn edrych ar ansawdd darpariaeth mewn lleoliadau gofal dydd ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd. Liz Sheen Mae Liz Sheen yn arweinydd rhaglen yr FdA Dysg a Datblygiad Babanod a Phlant Bach a’r FdA Plentyndod Cynnar, Gofal ac Addysg. Cyn iddi ymuno â’r tîm Teulu a Phlentyndod ym Mhrifysgol Glyndŵr, hyfforddodd Liz fel athrawes ysgol gynradd gan weithio llawer tramor mewn Addysg Uwch a swyddi hyfforddi gydag oedolion sy’n ddysgwyr. Yn fwyaf diweddar, bu Liz yn gweithio mewn swydd ddatblygu/cefnogi ar gyfer y Gymdeithas Gwarchod Plant Genedlaethol. Ym Mhrifysgol Glyndŵr mae Liz yn gweithio tuag at gefnogi myfyrwyr anrhraddodiadol/ymarferwyr gofal plant i fynd i addysg uwch gan gynnwys mynediad i raglen e-ddysgu â chefnogaeth lawn. Mae ganddi B.Ed (Anrh) mewn Addysg Gynradd, MA mewn Ieithyddiaeth Gymwysedig, Diploma AU mewn Datblygu a Hyfforddi Oedolion ac yn fwyaf diweddar Tystysgrif Addysg i Raddedigion mewn E-ddysgu. Mae ffocws ei hymchwil PhD yn edrych ar ganfyddiadau ymarferwyr o’r defnydd o dechnoleg gyda phlant dan 5. Rebecca Tandy Mae ei diddordebau mewn newid dealltwriaeth a pherthnasedd datblygiad plant, yn enwedig o ran babanod a phlant bach a’r defnydd o’r amgylchedd blynyddoedd cynnar i gefnogi ymarfer effeithiol. Mae ganddi ddiddordeb penodol ym mhwysigrwydd ymlyniadau cynnar a phlant mewn gofal mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar. Ruth DaviesMae Ruth Davies yn uwch ddarlithydd mewn Addysg Plentyndod Cynnar ym Mhrifysgol Glyndŵr. Mae ganddi radd BA (Anrh) mewn Astudiaethau Plentyndod Cynnar gydag Addysg. Mae ganddi brofiad helaeth o blant bach a phlant gydag anghenion arbennig gan iddi gymhwyso fel nyrs feithrinfa yn y 1980au cynnar gan weithio yn y gwasanaethau cymdeithasol ac mewn lleoliadau addysg amrywiol. Mae Ruth yn ymgymryd ag ymchwil MPhil/PhD ran-amser yn y brifysgol gan ganolbwyntio ar agweddau cyfranddeiliaid at yr amgylchedd dysgu awyr agored. Un o swyddi Ruth yw tiwtor personol sy’n cefnogi myfyrwyr blwyddyn gyntaf. Mae hi hefyd yn darparu modiwlau ar y rhaglen Gradd Sylfaen mewn Cymorth Dysgu. |
|