|
Rhydych chi yma:
Hafan > Sefydliadau Prifysgol > Iechyd, Gwyddorau Meddygol a Chymdeithas > Astudiaethau Teulu a Phlentyndod
|
||
|
|
Astudiaethau Teulu a PhlentyndodCroeso i’r adran Astudiaethau Teulu a Phlentyndod ym Mhrifysgol Glyndŵr. Nod y tudalennau hyn yw eich helpu i ddarganfod mwy am y cyrsiau, cyfleusterau, ymchwil a staff sydd gennym. Os na allwch ddod o hyd i’r hyn yr ydych yn chwilio amdano, cysylltwch â ni yn y cyfeiriad ar waelod y dudalen. Beth yw Astudiaethau Teulu a Phlentyndod?Mae gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd yn prysur ddod yn fater craidd ymhlith gwneuthurwyr polisïau addysgol, cymdeithasol a theuluol ar raddfa genedlaethol a rhyngwladol. Yma ym Mhrifysgol Glyndŵr, mae Astudiaethau Teulu a Phlentyndod yn adran flaengar sy’n cynnig astudiaeth drylwyr a rhyngddisgyblaethol i feysydd plentyndod, y teulu ac addysg. Rydym yn rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio mewn manylder rai o’r prif faterion sy’n wynebu plant, pobl ifanc a theuluoedd yn y gymdeithas sydd ohoni. Mae gan ein cynllun cwricwlwm, darpariaeth rhaglenni a diddordebau ymchwil gyswllt agos ag anghenion sector, sy’n cynnwys edrych ar safbwyntiau plentyndod, y teulu ac addysg trwy agwedd amlddisgyblaethol. |
|