Yr athroniaeth Prifysgol Plant a Phobl Ifanc Cymru
Mae Prifysgol Plant a Phobl Ifanc Cymru wedi mabwysiadau athroniaeth sy'n annog pobl ifanc i gael budd o'u cyfranogiad. Yn sylfaenol, pwrpas Prifysgol Plant a Phobl Ifanc Cymru yw hybu gweithgareddau sy'n datblygu'r 'plentyn cyfan' a rhoi credydau am gymryd rhan yn hytrach na'r modelau addysg traddodiadol o wobrwyo cyraeddiadau yn erbyn safonau penodol. Credwn y bydd Prifysgol Plant a Phobl Ifanc Cymru yn annog a chreu cyffro am ddysgu. Wrth wraidd yr athroniaeth yw'r credau canlynol:
- Dymuna disgyblion ddysgu.
- Dymuna rhieni i'w plant lwyddo.
- Mae dysgu'n broses gydol oes.
- Mae sawl ffordd o ddysgu.
- Mae dysgu'n parhau tu allan i oriau ysgol.
Ceisiwn wneud dysgu'n berthnasol
Yn gwiethio'n agos gyda rhieni a sefydliadau addysg ac anaddysgol, anela Prifysgol Plant a Phobl Ifanc Cymru at estyn dysgu myfyrwyr tu allan i'r diwrnod ysgol arferol. Darpara fframwaith eang ar gyfer myfyrwyr er mwyn iddynt gyrraedd eu potensial dysgu yn eu dewis faes dysgu.
Deallursrwydd Lluosog
Gellir trefnu modiwlau i gwmpasu ystod eang o brofiadau dysgu. Golyga amrywiaeth eang o ddullia dysgu yn cynnwys ystod o weithgareddau.
