Datblygiad Prifysgol Plant a Phobl Ifanc Cymru yn Wrecsam
Ers lansiad Prifysgol Plant a Phobl Ifanc Cymru yn Wrecsam yn 2002 y mae wedi mynd o nerth i nerth. Mae'r sefyllfa yn newid trwy'r adeg, gydag ysgolion a mudiadau newydd yn cofrestru fel canolfannau gweithgaredd a myfyrwyr newydd yn cychwyn ar eu llwybr Prifysgol Plant a Phobl Ifanc Cymru i wobrau a chydnabyddiaeth bob dydd.
Fel y gwelwch yn y tabl isod, mae'r cynnydd o fewn Prifysgol Plant a Phobl Ifanc Cymru wedi bod yn aruthrol.
| 2005 | 2006 | 2007 | 2008 | 2009 | |
|---|---|---|---|---|---|
| Cyfanswm yr oriau credyd | 10433 | 258816 | 242142 | 344678 | 323661 |
| Cyfanswm y modiwlau a gymerir | 19128 | 27170 | 52545 | ||
| Nifer o fodiwlau ar y gronfa ddata | 855 | 1657 | 1633 | 1927 | 2201 |
| Cyfanswm y myfyrwyr | 3504 | 5832 | 6829 | 8194 | 8881 |
| Cyfanswm yr ysgolion sy'n cyflenwi | 34 | 44 | 44 | 44 | |
| Cyfanswm y canolfannau sy'n cyflenwi | 23 | 37 | 40 | 45 |
Yn arbennig y cynnydd yn y nifer o fudiadau sy'n cynnig gweithgareddau Prifysgol Plant a Phobl Ifanc Cymru erbyn hyn.
Mae'r rhain yn cynnwys mudiadau cenedlaethol fel cynllun Gwobrwyo Dug Caeredig a Girlguiding, yn ogystal â mudiadau lleol a gwirfoddol mefis Parciau Gwledig Tŷ Mawr a Dyfroedd Alyn, Canolfan Treftadaeth Y Bers, ersham Heritage Centre, Theatr Ieuenctid Bitesize, Cymdeithas Chwarae Wrecsam a Llyfrgell a Chanolfan Celfyddydau Wrecsam.
Mae canran o fodylau yn cynnwys cyfraniad cymunedol (gwasanaethau neu berfformiad), yn enwedig y gweithgareddau hynny a redir gan fudiadau a chlybiau.
