Gweithgareddau a modiwlau
Gweithgareddau
Gweithgareddau'r penwythnos
Gall yr ystod o fodiwlau fod un eang ac amrywiol i adlewyrchu anghenion myfyrwyr ac adeiladu ar eu cryfderau.
Gweithgareddau gwyliau
Cynhelir y rhain mewn lleoliadau gwahanol un y gymuned a byddant yn ddosbarthiadau/weithdai ar amrywiaeth o bynciau sy'n anelu at gynddu sgiliau a gwybodaeth myfyrwyr.
Dysgu o bell
Cynlluniwyd y llinyn hwn i fod yn waith y mae'r myfyriwr yn ei gwblhau gartref. Rhoddir cyfres o dasgau i fyfyrwyr sy'n perthyn i thema gyffredin. Bydd gofyn eu cwblhau o fewn amser penodol. Darparant ystod o ddefnyddiau sy'n seiliedig ar y cwricwlwm a gynigir yn yr ysgol ond sy'n estyn ei ddimensiynau.
Gweithgareddau allgyrsiol
Y modiwlau hynny a gynhelir yn ystod amser cinio a'r rhai sy'n dechrau ar ddiwedd y diwrnod ysgol.
Modiwlau
Gellir ystyried modiwl fel uned ddysgu benodol. Bydd pob modiwl yn cael credyd a rhoddir un credyd ar gyfer un awr o waith. Mae atborth o'r cynllun peilot wedi'n hannog i osod lleiafswm o 5 awr dysgu a mwyafswm o 20 awr.
Mae 1 x credyd = 1 x awr.
Fel man cychwyn, gofynnwn I diwtoriaid asesu gweithgareddau presennol - y rhai a gynhelir tu allan i oriau ysgol - a chofrestru'r rhain fel modiwlau. Beth am gymryd mantais o'ch ymdrechion chi a'ch myfyrwyr a chael cydnabyddiaeth amdanynt?
- Cewch gydnabyddiaeth am eich ymdrechion: cyflwynwych eich holl weithgareddau 'tu allan i oriau' fel modiwlau.
- Cewch gydnabyddiaeth am eich plant: gwobrwywch nhw am eu hymdrech a'u amser, a'u cyfraniad i'r ysgol a'r gymuned.
- Cewch gydnabyddiaeth am eich ysgol: bydd cyfeirlyfr Prifysgol Plant a Phobl Ifanc Cymru yn rhestru'ch holl weithgareddau dysgu tu allan i oriau ysgol/Prifysgol Plant a Phobl Ifanc Cymru.
- Cewch gydnabyddiaeth am ymdrechion eich sefydliad.
Cyfeirlyfr
Rhoddir yn holl fodiwlau a gyflwynir i mewn i gyfeirlyfr cynhwysfawr a gylchredir i ganolfannau gweithgareddau. Mae'r cyfeirlyfr yn cynnwys teitl y modiwlau, enwau a chyfeiriadau cyswllt a chanlyniadai dysgu. Gall canolfannau weld yr hyn mae canolfannau eraill un ei wneud a rhannu.
Anela Prifysgol Plant a Phobl Ifanc Cymru at:
"Gynllunio strategaethau cyfarwyddol a fydd yn helpu myfyrwyr i feithrin sgiliau, gwybodaeth a hyder personol."
Rhiant
"Mae gweithgareddau fel hyn yn rhoi cyfle i blant archwilio doniau newydd."
