
Prifysgol Plant a Phobl Ifanc Cymru
Croeso i Brifysgol Plant a Phobl Ifanc Cymru a gynlluniwyd i gefnogi'r holl gyfleoedd dysgu sydd ar gael i blant a phobl ifanc tu allan i'r cwricwlwm ysgol statudol. Pwrpas Prifysgol Plant a Phobl Ifanc Cymru yw cynnig ystod o brofiadau dysgu a fydd yn cysylltu plant a phobl ifanc â'u cymunedau ehangach ac yn ysgogi eu diddordeb mewn dysgu tu hwnt i'r diwrnod ysgol. Mae Prifysgol Plant a Phobl Ifanc Cymru'n rhan o Brifysgol y Plant Genedlaethol sy'n gweithredu dan awennau'r Ymddiriedolaeth Gynradd Genedlaethol.
Wrth ddatblygu athroniaeth a gweithdrefnau Prifysgol Plant a Phobl Ifanc Cymru, cydnabyddwyd rôl ganolog ysgolion mewn datblygu addysg pobl ifanc. Meithrinwyd cysylltiadau agos rhwng darparwyr addysg, ar bob lefel, er mwyn darparu ystod o brofiadau dysgu a fydd yn annog pobl ifanc i barhau i ddysgu, a bod yn ymwybodol o'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt nawr ac yn y dyfodol. Mae hybu dysgu fel hyn yn sicrhau y bydd 'dysgu gydol oes' yn realiti i bobl ifanc Cymru. Sefydlwyd canolfannau gweithgareddau Prifysgol Plant a Phobl Ifanc Cymru* mewn sawl ysgol, yn y sectorau cymunedol a gwirfoddol a sefydliadau addysg bellach ac uwch eisoes. Mae'r datblygiad hwn yn cefnogi dymuniad Llywodraeth Cynulliad Cymru:
"Symud dysgu gydol oes yn ei flaen ymysg ein pobl; datblygu gallu pawb i fagu'r hyder i fod yn hyblyg a mentrus."
(Gwlad sy'n Dysgu, para 8.)
Sefydlodd Prifysgol Plant a Phobl Ifanc Cymru Wrecsam, sy'n bartneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Athrofa Addysg Uwch Gogledd-Ddwyrain Cymru (Prifysgol Cymru) y Prifysgol Plant a Phobl Ifanc Cymru gyntaf yng Nghymru. Yn Wrecsam, rydym wedi cynllunio system sy'n achredu pobl ifanc - rhwng 5 a 19 oed - am eu rôl mewn dysgu, a chynnig cyfle iddynt gael amrywiaeth o brofiadau a ddarperir mewn ystod o wahanol leoliadau. Mae'r model hwn wedi bod wrth wraidd mabwysiadu a gweithredu modelau tebyg mewn nifer o awdurdodau addysg lleol, colegau AB ac AU yng Nghymru. Ar y cyd â Phrifysgol Plant a Phobl Ifanc Cymru Genedlaethol, rydym yn awyddus i gefnogi darparwyr newydd sy'n dymuno cynnig darpariaeth drefnedig ond hyblyg i bobl ifanc eu hardal.
* Mae canolfan gweithgareddau Prifysgol Plant a Phobl Ifanc Cymru yn unrhyw fan lle darperir modiwl.



