Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Canolfan ar gyfer Dysgu Entrepreneuraidd (CFEL)

Adeiladu’r Campws Creadigol

“Adeiladu’r Campws Creadigol”

Ym  Mhrifysgol Glyndŵr yr ydym yn cydnabod y dylai dysgu ac addysgu trwy’r Brifysgol fod nid yn unig o’r ansawdd uchaf, ond hefyd yn ffactor gweithredol yn natblygiad graddedigion creadigol ac arloesol.

Er mwyn hyrwyddo twf y sgiliau hyn, crëodd Prifysgol Glyndŵr y Ganolfan ar gyfer Dysgu Entrepreneuraidd (CFEL) i ddatblygu menter a mentergarwch o fewn a thu hwnt i’r Brifysgol.

Mae’r Ganolfan yn cefnogi myfyrwyr ac ysgolheigion trwy ddigwyddiadau ymarferol, gweithdai, darlithoedd ac ymchwil yn ei chanolfannau pwrpasol: 

Zôn

Wedi’i lleoli yn Urdd y Myfyrwyr, mae’r Zôn yn ganolbwynt mentergarwch myfyrwyr. Mae’n darparu lle pwrpasol i helpu myfyrwyr i gynyddu sgiliau entrepreneuraidd neu lansio eu busnes eu hunain.
 

Mae’r Dibyn yn rhaglen integredig ar gyfer gosod mentergarwch/menter ym mhob maes pwnc trwy weithio ar y cyd ag ysgolheigion i wella addysgu ac ymchwil yn fenter a mentergarwch seiliedig ar bwnc.

Mae’r Ganolfan yn croesawu unrhyw syniadau neu brosiectau gan staff neu fyfyrwyr yn y Brifysgol a fyddai’n helpu i droi Glyndŵr yn gampws mwyaf creadigol Gogledd Cymru.

Gwasanaethau ar gyfer busnes