Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Profiad gwaith

Ein gwasanaethau profiad gwaith

Rydym yn ymwybodol o’r fantais i fusnesau lleol o gael mynediad rhwydd a chyflym i wybodaeth a sgiliau uwch pobl ddawnus, ddeallus a brwdfrydig. Rydym yn ymroddedig i ddarparu gwasanaeth proffesiynol ac effeithlon i gyflogwyr sydd â diddordeb mewn cael gafael ar y sgiliau hyn.

Mae ein perthynas gyda chyrff allanol yn eithriadol o bwysig i ni o ran darparu ystod o brofiad gwaith i’n myfyrwyr a’n graddedigion. Cysylltwch â ni am drafodaeth anffurfiol am anghenion eich corff a’r hyn y gallech ei gynnig o ran profiad gwaith perthnasol i’n myfyrwyr a’n graddedigion.

Rhaglen GO Wales

  • Gallai rhaglen profiad gwaith GO Wales arbed amser ac arian i’ch busnes
  • Nod GO Wales yw galluogi busnesau lleol i gael gafael ar sgiliau lefel uchel a helpu i gefnogi twf a datblygiad yr economi leol
  • Mae Canolfan Yrfaoedd Prifysgol Glyndŵr yn darparu rhaglen profiad gwaith lwyddiannus trwy GO Wales, a reolir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)

Lleoliadau Gwaith GO Wales

  • Mae lleoliadau gwaith GO Wales yn rhoi cyfle i chi gyflogi rhywun gyda gradd (neu sy’n astudio ar gyfer gradd) i gwblhau prosiect tra’n gweithio i’ch cwmni am tua 10 wythnos
  • Rydym wedi cynnig lleoliadau mewn meysydd megis marchnata, peirianneg, TG, rheolaeth prosiect a mwy
  • Mae lleoliadau wedi eu hanelu’n bennaf at fentrau bach a chanolig. Yn aml, nid oes gan fusnesau bach yr amser na’r adnoddau i ddatblygu syniadau a phrosiectau newydd. Weithiau, nid oes ganddynt y sgiliau arbenigol angenrheidiol i gwblhau’r dasg benodol

Manteision Lleoliadau Gwaith

  • Dewis o fyfyrwyr a graddedigion brwdfrydig a medrus o ansawdd uchel
  • Gall pobl gyda gwybodaeth a sgiliau penodol ychwanegu at werth eich busnes
  • Hyd at £95 yr wythnos tuag at gyflog wythnosol
  • Prosiect 6-10 wythnos wedi’i gwblhau
  • Cyfle i weld a all y cwmni elwa yn barhaol o sgiliau graddedigion

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Shereen Massingham neu Sam Forde, Swyddogion Profiad Gwaith ym Mhrifysgol Glyndŵr, ar 01978 293240 neu ebostiwch gowales@glyndwr.ac.uk.

Blas ar Waith GO Wales

  • Mae Blas ar Waith yn gyfnodau byr, hyblyg a di-dâl o brofiad gwaith wedi’u cynllunio i helpu israddedigion i gael goleuni ar yrfa neu sector busnes penodol
  • Rydym yn paru myfyrwyr a graddedigion Prifysgol gyda chyrff lleol am gyfnodau o brofiad sy’n amrywio o 1 diwrnod i ychydig wythnosau

Mantesion Blas ar Waith

Mae cynnal Blas ar Waith yn cynnig nifer o fanteision o safbwynt busnes. Byddwch yn cael:

  • Cyfle i roi cyfle i fyfyriwr/wraig ddysgu am eich corff neu ddiwydiant
  • Cyfle i helpu myfyriwr/wraig i wneud dewis gyrfaol cytbwys
  • Cyfle i arddangos eich dewis o waith i recriwtiaid posib
  • Cyfle i wneud gwahaniaeth i fyfyriwr/wraig lleol

Cysylltwch â Lucy Jones, Swyddog Profiad Gwaith, ar 01978 293365 neu ebostiwch l.r.jones@glyndwr.ac.uk

Hysbysebu Swyddi AM DDIM

Mae Swyddi GO Wales yn wefan recriwtio AM DDIM y mae cannoedd o raddedigion yn edrych arni bob wythnos wrth chwilio am waith yng Nghymru – rhestrwch eich swydd wag  yma.

Beth mae cyflogwyr eraill yn ei ddweud am gynnig Profiad Gwaith

"Cefais gefnogaeth ardderchog gan y Swyddog Profiad Gwaith a’r staff yng Nghanolfan Yrfaoedd Glyndŵr."

Cysylltu â ni

Cysylltwch â’r Ganolfan Yrfaoedd ym Mhrifysgol Glyndŵr am drafodaeth anffurfiol. Gallwn eich helpu i asesu a allai lleoliad gwaith neu flas ar waith fod yn addas neu a fyddai rhywbeth arall yn fwy addas. Rhif Ffôn: 01978 293240/ email gowales@glyndwr.ac.uk

Cael gafael ar sgiliau lefel uwch: PTG

Ym Mhrifysgol Glyndŵr, rydym hefyd yn gweithio i ddarparu cyfleoedd profiad gwaith uwch a elwir yn PTG. Mae gennym dîm yn y Brifysgol sy’n gallu gweithio gyda chi i ddod o hyd i’r cyfle iawn a’ch arwain trwy’r broses. Cysylltwch ag Arloesiadau Glyndŵr  ar 01978 293491 neu ebostiwch solutions@glyndwr.ac.uk

Gwasanaethau ar gyfer busnes