|
|
Cyfarfod myfyrwyr a chefnogi cyflogadwyedd
Os ydych yn gorff bach, canolig neu fwy, rydym yn gwerthfawrogi eich cyfraniad i’r sesiynau dysgu datblygiad gyrfaol a gynhelir gennym. Mae gennym ystod eang o bynciau galwedigaethol, felly beth bynnag fo eich sector, rydym yn eich gwahodd i gyfrannu. Mae myfyrwyr wir yn gwerthfawrogi profiad a’r cyngor a’r awgrymiadau y gallant eu cynnig. Sut mae cyflogwyr yn cyfrannu trwy’r Ganolfan Yrfaoedd
Mae’r rhestr yn ddibendraw. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, ni waeth pa mor fawr neu fach y mae eich cyfraniad yn debygol o fod, rydym bob amser yn falch o drafod. Beth mae cyflogwyr yn ei ddweud am weithio gyda rhaglenni a digwyddiadau Dysgu Datblygiad Gyrfaol ym Mhrifysgol Glyndŵr “Rwyf yn ddiolchgar iawn i bawb a edrychodd ar fy ôl i ac am drefnu’r ymweliad [â’r Digwyddiad Dyfodol Creadigol]” “Diolch am fy ngwahodd i siarad yn y Digwyddiad Dyfodol Creadigol; roedd yn fraint ac yn anrhydedd a mwynheais fy hun yn fawr. Roeddwn yn falch iawn fod y myfyrwyr yn fwy na bodlon i gymryd rhan yn yr hwyl a’r sbri. Mae gennych griw gwych o fyfyrwyr yn y Brifysgol a dymuniadau gorau iddynt yn yr wythnosau, misoedd a blynyddoedd sydd i ddod.” “Mwynheais siarad â’r myfyrwyr yn fawr…roedd y diwrnod yn brofiad gwerthfawr iawn i ni yn y theatr oherwydd yn sgil siarad gyda’r myfyrwyr rydym wedi sylweddoli hwyrach fod yna ffyrdd eraill y gallwn helpu ar lefel ymarferol.” “Mwynheais [gymryd rhan yn y Digwyddiad Dyfodol Creadigol]. Cefais atborth clên gan fyfyrwyr wedyn trwy Twitter a gwerthu ambell beth o fy siop hefyd.” Cyfleoedd eraill ar gyfer cyflogwyr
Cysylltwch â’r Ganolfan Yrfaoedd ar 01978 293240 neu ebostiwch careerscentre@glyndwr.ac.uk. |
|