|
Text begins here:
Arbenigedd myfyrwyr a graddedigion
Mae Canolfan Yrfaoedd a Siop Swyddi Prifysgol Glyndŵr yn gweithio gyda llawer o gyflogwyr, ym mhob sector, sy’n gwerthfawrogi cysylltiad gyda myfyrwyr a graddedigion Glyndŵr.
- Ein Siop Swyddi yw eich man cysylltu cyntaf os oes gennych swydd wag i’w llenwi
- Gallai eich prosiectau presennol elwa o arbenigedd a mewnbwn myfyrwyr/graddedigion – mae gennym raglen profiad gwaith GO Wales lwyddiannus y mae llawer o gyrff wedi cymryd rhan ynddynt
- Mae llawer o gyflogwyr yn codi eu proffil eu hunain trwy weithio gyda’r Ganolfan Yrfaoedd fel partneriaid mewn sesiynau cyflogadwyedd, cymryd rhan mewn digwyddiadau cyflogwyr ar gyfer myfyrwyr a thrwy roi gwybodaeth i’n myfyrwyr a’n graddedigion
- Gall noddi rhaglenni pwysig fel Gwirfoddolwyr Glyndŵr, canllawiau gwybodaeth, gwobrau neu ddigwyddiadau gyrfaol penodol eich helpu i ymgysylltu â darpar gyflogwyr yn ogystal â chodi eich proffil
|