
Gwasanaethau ar gyfer Busnes
o wybodaeth… i atebion
Mae Prifysgol Glyndŵr yn anelu i foddhau anghenion ac uchelgeisiau busnes a diwydiant, mudiadau sector cyhoeddus a chymunedol. Mae ein gwybodaeth, arbenigedd a chyfleusterau yma i’ch helpu chi a’ch mudiad i arloesi, creu a llwyddo.
Yr ydym yn cynnig ystod o wasanaethau gan gynnig hyfforddi ac ymgynghori, ymchwil, cyrsiau sy’n arwain at gymwysterau proffesiynol, uwchraddedig ac israddedig, a chyrchu cyfleusterau ac offer arbenigol.
Trwy weithio gyda’n gilydd fe allwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i berfformiad a chyraeddiadau eich staff, eich prosesau a’ch mudiad.



