Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Myfyrwyr yr UE (tu allan i’r DU): 2010/11

Mae’n bosibl y bydd rhai myfyrwyr UE yn gymwys ar gyfer pecyn ysgoloriaeth gan Brifysgol  Glyndŵr ar gyfer y flwyddyn academaidd 2010/11.

Mae Cynllun Cyfnewid Ewropeaidd Glyndŵr ar gael i fyfyrwyr sy’n byw yn bennaf y tu allan i’r Deyrnas Unedig ond o fewn y CE ac sydd yn astudio’r cyrsiau canlynol:

  • Pob cwrs peirianneg israddedig
  • BSc Rhwydweithiau Cyfrifiadurol
  • BSc Cyfrifiadura Cymhwysol
  • BSc Cyfrifiadura’r Rhyngrwyd ac Amlgyfryngol
  • BSc Cyfrifiadura a TG

Swm yr ysgoloriaeth a gynigir fydd £2,290. Bydd angen i fyfyrwyr brofi eu bod yn symud dros dro i’r DU yn benodol i ddilyn cwrs astudiaeth.

Codir ffi hyfforddi o £1,000; gall myfyrwyr wneud cais am fenthyciad i dalu am hyn trwy’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Ni fydd myfyrwyr sy’n derbyn ysgoloriaeth Cyfnewid Ewropeaidd Glyndŵr yn gymwys ar gyfer unrhyw fwrsari ychwanegol.

Cysylltwch â’r Ddesg Gwybodaeth Myfyrwyr am fwy o wybodaeth:

Ffioedd a chyllid myfyrwyr