Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Ysgoloriaethau Ymchwil 2010

Ysgoloriaeth (Ymchwil) KESS yn Cychwyn 2010/11

Proses Trwygyrch Uchel ar gyfer Pwysedd-Atmosfferig Mewnol Cynhyrchu Ffotofoltaeg Haen Denau.

Canolfan ar gyfer Ymchwil Ynni Heulol (CSER). Rhan o’r Sefydliad Ymchwil Carbon Isel (LCRI)

Mae Canolfan ar gyfer Ymchwil Ynni Heulol Prifysgol Glyndŵr a Scanwel Ltd, sy’n arbenigo mewn systemau dyddodi, wedi mentro i bartneriaeth i weithio ar ymchwil datblygu proses. Mae gan CSER enw da rhyngwladol ym maes ffotofoltaeg (PV) CdTE haen denau. Mae gan y tîm deinamig yn CSER allu unigryw i ymchwilio i ddefnyddiau o ansawdd uchel trwy dechnegau MOCVD. Bydd yr ysgoloriaeth KESS 3 blynedd arfaethedig yn cynnwys y tasgau heriol o astudio, cynllunio a datblygu broses fewnol arloesol a chost effeithiol. Bydd y ffocws ar weithio tuag at gyflawni modiwlau PV CdTE haen denau gydag effeithlonrwydd trawsnewid o 14% ac uwch.

Rydym yn cynnig...

- Cyfleusterau labordy helaeth,

- Cyfleoedd ymchwil cymwysedig gyda chwmni lleol,

- Tîm ymchwil cyfeillgar a deinamig,

- Grant ysgoloriaeth lawn yn cynnig cyflog hael ac yn talu am y ffioedd i gyd (gweler y telerau cymhwyster).

Rydym yn disgwyl...

- Gradd Meistr neu Faglor (1af neu 2.1) mewn ffiseg, gwyddor defnyddiau, peirianneg neu gemeg ffisegol/anorganig,  

- Gwybodaeth dda o ddatblygu a mwyhau prosesau,

- Chwilfrydedd, ymroddiad a chreadigrwydd.

Cyflog oddeutu: £13,290 y flwyddyn

Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS)

Mae’r cymhwyster PhD ar gynnig wedi’i gyfuno â rhaglen hyfforddi sgiliau lefel-uchel, sy’n arwain at Wobr Datblygu Sgiliau Uwchraddedig (60 credyd).

Cymhwyster ar gyfer yr ysgoloriaeth KESS

Mae’n rhaid i’r ymgeiswyr fod yn byw (neu’n gweithio) yn yr ardal Gydgyfeirio (Gorllewin Cymru a’r Cymoedd) pan fyddant yn gwneud cais. Mae’n rhaid i’r ymgeiswyr hefyd allu ymgymryd â gwaith cyfloedig yn yr ardal Gydgyfeirio ar ôl cwblhau’r ysgoloriaeth.

Am fwy o fanylion ynglŷn â’r ysgoloriaeth yma, cysylltwch â:

Dr. Vincent Barrioz

Canolfan ar gyfer Ymchwil Ynni Heulol (CSER), Prifysgol Glyndŵr, OpTIC Technium, Ffordd William Morgan, Parc Busnes Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0JD

Rhif ffôn:+44 (0) 1745 535 159, Rhif ffacs:+44 (0) 1745 535 101

Ebost vincent.barrioz@optictechnium.com

Ffioedd a chyllid myfyrwyr