Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Myfyrwyr uwchraddedig a phroffesiynol y DU 2010

Yn dilyn llwyddiant yr ysgoloriaeth uwchraddedig a gynigwyd gennym yn 2009/10, mae’n bleser gan Brifysgol Glyndŵr gynnig ysgoloriaeth uwchraddedig unwaith yn rhagor ar gyfer cofrestriadau yn ystod y flwyddyn academaidd 2010/2011.

Mae’r ysgoloriaeth yn cyfateb i 50% o ffi’r cwrs Cartref/UE.

Mae’r ysgoloriaeth yn agored i holl raddedigion Prifysgol Glyndŵr, graddedigion o brifysgolion Cymreig eraill a graddedigion sydd wedi bod yn byw yng Nghymru am dair blynedd cyn dechrau eu hastudiaethau uwchraddedig – sy’n meddu ar radd anrhydedd neu radd gyfatebol.

Y cyrsiau a gwmpasir gan yr Ysgoloriaeth yw: Cyrsiau Llawn a Rhan-amser: MA, MSc, MBA, MRes, PGCert, PGDip, MPhil/PhD

Cymhwyster ar gyfer ein hysgoloriaeth 2010/11

  • Fod cwrs israddedig yr ymgeisydd wedi cael ei gwblhau yn llwyddiannus ym Mhrifysgol Glyndŵr neu unrhyw brifysgol arall yng Nhgymru a gradd anrhydedd (ney radd gyfatebol fel a benwyd gan y Swyddfa Dderbyniadau) wedi cael ei dyfarnu NEU
  • Fod yr ymgeisydd yn raddedig o unrhyw brifysgol ac wedi derbyn gradd anrhydedd (neu gyfatebol) ac wedi byw yng Nghymru am dair blynedd cyn dechrau’r cwrs
  • Nad yw’r ymgeisydd yn ddyledus i Brifysgol Glyndŵr
  • Fe all myfyrwyr rhyngwladol dderbyn yr ysgoloriaeth ond ar gyfradd y ffi Cartref/UE –
  • Fod eu cymhwyster wedi cael ei gadarnhau gan y Swyddfa Rhaglenni Myfyrwyr a’r adran Gyllid
  • Ni ellir dal ysgoloriaeth uwchraddedig ynghyd ag Ysgoloriaeth Prifysgol Glyndŵr arall

Telerau ac amodau

  • Gostyngiad mewn ffioedd yw’r wobr yn hytrach nag arian parod a delir i’r myfyriwr/wraig
  • Mae’n cael ei ddyfarnu yn ystod eich blwyddyn astudio
  • Mae’r ysgoloriaeth yn werth 50% o’r ffi Cartref/UE
  • Mae’n rhaid i fyfyrwyr rhan-amser gwneud cais bob blwyddyn o astudio
  • Fe’i dyfernir pro rata am astudiaeth ran-amser yn ystod dwy flynedd cyntaf cofrestru yn unig
  • Fe’i dyfernir am hyd arferol y cwrs yn unig: dim ond myfyrwyr sy’n gorfod ailsefyll y flwyddyn fydd ddim yn derbyn unrhyw ysgoloriaeth ar gyfer y flwyddyn ychwanegol honno
  • Mae’n berthnasol ar gyfer cofrestru ym mlwyddyn academaidd 2010/2011, Semestrau Un a Dau yn unig ond y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar gyfer y flwyddyn academaidd fydd y 15fed o Orffennaf 2011
  • Nr ellir dal yr ysgoloriaeth uwchraddedig yngyhd ag ysgoloriaeth Prifysgol Glyndwr arall

Nodiadau

1. Gall myfyrwyr ar y cwrs TAR neu PGDip 2010/11 fod yn gymwys naill ai am grant ffi neu ysgoloriaeth. Nid yw myfyrwyr TAR neu PGDip sy’n cael cyllid ffioedd dysgu, h.y. gan Awdurdod Addysg Lleol / Cyllid Myfyrwyr Uniongyrchol, yn gymwys ar gyfer yr ysgoloriaeth hon.

2. Fe allai cyrsiau Cymraeg ddenu consesiwn o 50% yn amodol ar gwrdd â meini prawf cymhwysedd Prifysgol Glyndŵr.

Cysylltwch â ni

Ffioedd a chyllid myfyrwyr