|
|
Myfyrwyr israddedig y DU 2011/12CyflwyniadFel myfyryiwr/wraig israddedig llawn-amser yn cychwyn eich cwrs ym mis Medi 2011, dylech fod yn gwbl ymwybodol o’r modd y mae cyllid a nawdd myfyrwyr yn gweithio tra’n astudio mewn Prifysgol. Yn ariannol, mae yna gostau sylweddol yn gysylltiedig â bod yn fyfyriwr/wraig llawn-amser, a nawdd ar gael i’ch helpu i leddfu rhai o’r costau yma. Noder y bydd y rhan fwyaf o nawdd yn dibynnu ar ble’r ydych yn byw, incwm yr aelwyd a statws cyfredol. CostauMae yna ddwy brif gost i’w hystyried os ydych yn gobeithio astudio yn llawn amser o fis Medi 2011:
Eich ffioedd hyfforddiAr gyfer y flwyddyn academaidd 2011/2012, y ffioedd hyfforddi blynyddol ar gyfer myfyrwyr israddedig llawn amser o’r DU yw £3,375. Myfyrwyr israddedig y DU
Cofiwch, nid oes rhaid i chi dalu UNRHYW ffioedd hyfforddi yn uniongyrchol – er y gallwch wneud hynny os ydych yn dymuno. Yn hytrach, gallwch ohirio eich ffioedd nes y byddwch mewn gwaith cyflogedig ac yn ennill mwy na £15,000 y flwyddyn. Er mwyn gohirio eich ffioedd mae’n rhaid i chi wneud cais am gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ar y ffurflen PN1 (Myfyrwyr Newydd). Y ffurflen yma hefyd yw’r man cychwyn os ydych eisiau gwneud cais am unrhyw grantiau, h.y. Grantiau Dysgu y Cynulliad Cenedlaethol a Grantiau Cynhaliaeth â phrawf moddion. Eich costau bywDyma fydd yn rhaid i chi gyllidebu ar eu cyfer er mwyn sicrhau eich bod yn gallu cychwyn, parhau a chwblhau eich astudiaethau. Mae’r rhain yn amlwg yn seiliedig ar amgylchiadau personol ond yn cynnwys cyfuniad o’r canlynol:
Bwrsarïau, Ysgoloriaethau a Grantiau Prifysgol GlyndŵrBwrsari Prifysgol Glyndŵr Mae Bwrsari Prifysgol Glyndŵr ar gael i bob myfyriwr/wraig israddedig llawn-amser o’r DU sy’n cwrdd â’r meini prawf sylfaenol. Mae bwrsari Prifysgol Glyndŵr hyd at £500 ac yn cael ei gynnig ar dair lefel wahanol yn seiliedig ar incwm cartref eich teulu. Mae hwn yn daliad blynyddol i’ch helpu chi i dalu am gostau cysylltiedig â’ch cyrsiau, ac mae’n rhaid gwneud cais bob blwyddyn. Mae’r tair lefel fel a ganlyn:
*Mae’r ffigurau hyn yn cynnwys Bwrsari Cenedlaethol Cymru o £338. Bydd eich awdurdod addysg lleol (AALl) yn cynnal asesiad o ba mor gymwys ydych ac fel rhan o’r un ffurflen, pa mor gymwys ydych ar gyfer unrhyw gymorth arall yr hoffech wneud cais amdano, e.e., benthyciad ffi hyfforddi neu grant cynhaliaeth. Er mwyn gwneud hyn mae’n rhaid i chi lenwi ffurflen PN1 (Myfyriwr/wraig Newydd) cyn gynted â phosibl. Dosberthir y ffurflenni hyn gan eich AALl neu gorff cyllido cyfwerth. Noder fod yn rhaid i chi ddilyn y broses gwneud cais yma am bob blwyddyn o’ch astudiaeth, fodd bynnag mae’r bwrsari yn un parhaol, sy’n golygu y gellir ei gymhwyso i bob blwyddyn o astudio. Ysgoloriaethau Prifysgol Glyndŵr Ysgoloriaeth mabolgampwyr dawnus Mae gan Brifysgol Glyndŵr sawl bwrsari ac ysgoloriaeth y gall eu gwobrwyo i gynorthwyo mabolgampwyr dawnus a myfyrwyr sy’n cymryd rhan mewn mabolg. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Chwaraeon ym Mhrifysgol Glyndŵr ar 01978 293589. Ysgoloriaeth gadawyr gofal Gall ysgoloriaethau eraill fod ar gael hefyd ar sail gystadleuol gan gyflogwyr, banciau, neu gyrff dyngarol eraill. Fel man cychwyn, fe allech ddymuno chwilio’r we neu ddefnyddio safle adnodd fel: http://www.scholarship-search.org.uk NawddI hwyluso eich astudiaethau, mae nawdd ar gael trwy amryw o ffynonellau – noder fod gweinyddiaeth ar gyfer cymorth i fyfyrwyr wedi cael ei datganoli yn y DU ers peth amser. Noder: Sicrhewch eich bod yn gwneud cais am eich cyllid cyn gynted â phosib. Talu benthyciadau yn öl
Grantiau ychwanegol trwy gorff cyllidoLwfans Myfyrwyr Anabl Os ydych yn fyfyriwr/wraig anabl, bydd y Lwfans Myfyrwyr Anabl (LMA) yn eich helpu gyda chostau a fydd yn dod i’ch rhan wrth i chi fynychu eich cwrs, o ganlyniad uniongyrchol i’ch anabledd. Os yr ystyrir chi yn gymwys ac yn dibynnu ar eich anghenion, fe allai’r Lwfans, er enghraifft, roi cymorth i fyfyrwyr cymwys ar gyfer offer arbenigol, lwfans cynorthwy-ydd anfeddygol, neu helpu tuag at gostau teithio i Brifysgol Glyndŵr. Myfyrwyr gyda dibynyddion Os oes gennych blant neu ddibynyddion, fe allech fod yn gymwys ar gyfer cymorth ychwanegol fel y Grant Plant, y Grant Dibynyddion Mewn Oed neu’r Lwfans Dysgu Rhieini. Bydd eich awdurdod addysg lleol neu gorff cyllido cyfwerth yn gallu rhoi mwy o wybodaeth i chi. Cymorth ariannol ychwanegolCymorth ychwanegol Mae llawer o fyfyrwyr yn wynebu heriau ariannol ar ryw adeg yn ystod eu cwrs. Mae cyngor wrth law, ac mae’n bwysig eich bod yn ceisio cyngor cyn gynted â phosibl. Mae manylion ynghylch pwy sy’n gymwys a sut i wneud cais ar gael gan y Cyngor ac Arweiniad Lles Myfyrwyr. Cronfa ariannol wrth gefn Mae’r gronfa hon yn bodoli i ddarparu cymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n cael trafferth i gwrdd â’u costau byw, ac mae’n bosibl na fydd yn rhaid i unrhyw arian a roddir gael ei dalu’n ôl. Israddedig UE rhan-amser
Israddedig y DU rhan-amser
Cysylltwch â niNid yw’r broses o ariannu eich astudiaethau yn un syml, ond mae cymorth ar gael. I siarad â rhywun am gyngor ac arweiniad pellach am ffioedd, bwrsarïau ac ysgoloriaethau Prifysgol Glyndŵr, neu wybodaeth gyffredinol am ariannu eich astudiaethau, cysylltwch â’r Tîm Cyngor ac Arweiniad Lles Myfyrwyr:
YmwadiadTra bod Prifysgol Glyndŵr wedi cymryd pob cam i sicrhau fod yr wybodaeth a geir uchod yn gywir wrth fynd i’r wasg, fe allai’r wybodaeth a geir yn y daflen hon newid pe bai penderfyniadau a wneir y tu allan i’r Brifysgol yn effeithio ar bolisïau a gweithdrefnau o ran ffioedd, bwrsarïau, grantiau a benthyciadau. Noder hefyd fod myfyrwyr cymwys yn cael eu hailasesu bob blwyddyn ar gyfer ffioedd, benthyciadau a grantiau, a rhaid iddynt ail wneud cais i’w Hawdurdod Addysg Lleol ar y ffurflen berthnasol bob blwyddyn. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol, fe allech fod yn gymwys ar gyfer cymorth ariannol ar wahân i’r cymorth a ddisgrifir ar y dudalen we. Nodiadau
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||