|
|
Myfyrwyr israddedig y DU: 2010/11CyflwyniadFel myfyryiwr/wraig israddedig llawn-amser yn cychwyn eich cwrs ym mis Medi 2010, dylech fod yn gwbl ymwybodol o’r modd y mae cyllid a nawdd myfyrwyr yn gweithio tra’n astudio mewn Prifysgol. Yn ariannol, mae yna gostau sylweddol yn gysylltiedig â bod yn fyfyriwr/wraig llawn-amser, a nawdd ar gael i’ch helpu i leddfu rhai o’r costau yma. Noder y bydd y rhan fwyaf o nawdd yn dibynnu ar ble’r ydych yn byw, incwm yr aelwyd a statws cyfredol. CostauMae yna ddwy brif gost i’w hystyried os ydych yn gobeithio astudio yn llawn amser o fis Medi 2010:
Eich ffioedd hyfforddiAr gyfer y flwyddyn academaidd 09/10, y ffioedd hyfforddi blynyddol ar gyfer myfyrwyr israeddig llawn-amser o’r DU yw £3,290. Cofiwch, nid oes rhaid i chi dalu UNRHYW ffioedd hyfforddi yn uniongyrchol – er y gallwch wneud hynny os ydych yn dymuno. Yn hytrach, gallwch ohirio eich ffioedd nes y byddwch mewn gwaith cyflogedig ac yn ennill mwy na £15,000 y flwyddyn. Er mwyn gohirio eich ffioedd mae’n rhaid i chi wneud cais am gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ar y ffurflen PN1 (Myfyrwyr Newydd). Y ffurflen yma hefyd yw’r man cychwyn os ydych eisiau gwneud cais am unrhyw grantiau, h.y. Grantiau Dysgu y Cynulliad Cenedlaethol a Grantiau Cynhaliaeth â phrawf moddion. Eich costau bywDyma fydd yn rhaid i chi gyllidebu ar eu cyfer er mwyn sicrhau eich bod yn gallu cychwyn, parhau a chwblhau eich astudiaethau. Mae’r rhain yn amlwg yn seiliedig ar amgylchiadau personol ond yn cynnwys cyfuniad o’r canlynol: Llety – gall y rhain fod yn ystafelloedd Prifysgol neu eiddo perchnogaeth breifat neu a rentir yn breifat – fel arfer un o’r costau mwyaf sy’n gysylltiedig â bod yn fyfyriwr/wraig llawn-amser; sicrhewch eich bod yn cyllidebu i gynnwys pob cost gysylltiedig gan gynnwys biliau. Costau – bwyd, diod, lwfans byw cyffredinol – rhan sylweddol o gynllun ariannol blynyddol yn aml, felly mae’n bwysig cyllidebu fel y gallwch fyw’n iawn o fewn eich modd. Costau astudio – costau astudio cysylltiedig i gynnwys llyfrau, tanysgrifiadau, costau astudio, teithiau maes, cludiant i ac o’r Brifysgol – mae yna lawer o ffyrdd i gadw’r rhain i lawr. NawddI hwyluso eich astudiaethau, mae nawdd ar gael trwy amryw o ffynonellau – noder fod gweinyddiaeth ar gyfer cymorth i fyfyrwyr wedi cael ei datganoli yn y DU ers peth amser. Ar gyfer y flwyddyn academaidd 2010/11 bydd y cymorth sydd ar gael yn amrywio yn dibynnu o ba ran o’r DU yr ydych yn dod a phryd y gwnaethoch ddechrau eich cwrs. Cliciwch ar y ddolen berthnasol isod i ddarganfod mwy – fel arall cysylltwch â’n Tîm Cyllid a Lles Myfyrwyr yn uniongyrchol trwy ffonio / ebostio.
Grant Dysgu’r CynulliadOs ydych yn byw yng Nghymru fel arfer Ar gyfer y flwyddyn academaidd 2010-11 mae’r Cynulliad wedi darparu system grantiau ddiwygiedig:
Grant CynnalOs ydych yn byw yn Lloegr fel arfer Yn 2010/11 bydd myfyrwyr sy’n cychwyn ar gwrs llawn-amser yn gymwys am yr un lefel o gymorth cynnal uniongyrchol a oedd ar gael i fyfyrwyr newydd yn 2009/10:
Benthyciad CynnalYn fwy adnabyddus fel Benthyciadau Myfyrwyr, gallech fod yn gymwys ar gyfer benthyciad cynhaliaeth myfyrwyr i dalu am eich treuliau cysylltiedig â chyrsiau. Telir yr arian yma i mi gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. (Bydd angen i chi fod wedi llenwi ffurflen PN1.)
Noder Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud cais am eich arian cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, mae’r dyddiadau cau ar gyfer gwneud cais (er mwyn sicrhau fod eich arian yn ei le erbyn dechrau eich cwrs gradd ym mis Medi 2010) fel a ganlyn: Cymru
Lloegr
Am fwy o wybodaeth, ewch i’r Wefan cyllid ariannol briodol ar gyfer yr ardal o’r DU yr ydych yn byw ynddi fel arfer: Talu benthyciadau yn öl
Grantiau ychwanegol trwy gorff cyllidoLwfans Myfyrwyr Anabl Os ydych yn fyfyriwr/wraig anabl, bydd y Lwfans Myfyrwyr Anabl yn eich helpu gyda chostau a fydd yn dod i’ch rhan wrth i chi fynychu eich cwrs, o ganlyniad uniongyrchol i’ch anabledd. Os yr ystyrir chi yn gymwys ac yn dibynnu ar eich anghenion, fe allai’r Lwfans, er enghraifft, roi cymorth i fyfyrwyr cymwys ar gyfer offer arbenigol, lwfans cynorthwy-ydd anfeddygol, neu helpu tuag at gostau teithio i Brifysgol Glyndŵr. Myfyrwyr gyda dibynyddion Os oes gennych blant neu ddibynyddion, fe allech fod yn gymwys ar gyfer cymorth ychwanegol fel y Grant Plant, y Grant Dibynyddion Mewn Oed neu’r Lwfans Dysgu Rhieini. Bydd eich awdurdod addysg lleol neu gorff cyllido cyfwerth yn gallu rhoi mwy o wybodaeth i chi. Bwrsarïau, Ysgoloriaethau a Grantiau Prifysgol GlyndŵrBwrsari Prifysgol Glyndŵr Mae Bwrsari Prifysgol Glyndŵr ar gael i bob myfyriwr/wraig israddedig llawn-amser o’r DU sy’n cwrdd â’r meini prawf sylfaenol. Mae bwrsari Prifysgol Glyndŵr hyd at £500 ac yn cael ei gynnig ar dair lefel wahanol yn seiliedig ar incwm cartref eich teulu. Mae hwn yn daliad blynyddol i’ch helpu chi i dalu am gostau cysylltiedig â’ch cyrsiau, ac mae’n rhaid gwneud cais bob blwyddyn. Mae’r tair lefel fel a ganlyn:
*Mae’r ffigurau hyn yn cynnwys Bwrsari Cenedlaethol Cymru o £319. Bydd eich awdurdod addysg lleol (AALl) yn cynnal asesiad o ba mor gymwys ydych ac fel rhan o’r un ffurflen, pa mor gymwys ydych ar gyfer unrhyw gymorth arall yr hoffech wneud cais amdano, e.e., benthyciad ffi hyfforddi neu grant cynhaliaeth. Er mwyn gwneud hyn mae’n rhaid i chi lenwi ffurflen PN1 (Myfyriwr/wraig Newydd) cyn gynted â phosibl. Dosberthir y ffurflenni hyn gan eich AALl neu gorff cyllido cyfwerth. Noder fod yn rhaid i chi ddilyn y broses gwneud cais yma am bob blwyddyn o’ch astudiaeth, fodd bynnag mae’r bwrsari yn un parhaol, sy’n golygu y gellir ei gymhwyso i bob blwyddyn o astudio. Ysgoloriaethau Prifysgol Glyndŵr Ysgoloriaeth mabolgampwyr dawnus Mae gan Brifysgol Glyndŵr sawl bwrsari ac ysgoloriaeth y gall eu gwobrwyo i gynorthwyo mabolgampwyr dawnus a myfyrwyr sy’n cymryd rhan mewn mabolg. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Chwaraeon ym Mhrifysgol Glyndŵr ar 01978 293589.. Ysgoloriaeth gadawyr gofal Gall ysgoloriaethau eraill fod ar gael hefyd ar sail gystadleuol gan gyflogwyr, banciau, neu gyrff dyngarol eraill. Fel man cychwyn, fe allech ddymuno chwilio’r we neu ddefnyddio safle adnodd fel: http://www.scholarship-search.org.uk Cymorth ariannol ychwanegolRhaglenni nyrsio a gwaith cymdeithasol Mae cymorth ariannol ar gyfer rhaglenni nyrsio a gwaith cymdeithasol ychydig yn wahanol i’r ddarpariaeth a amlinellir yn y wefan yma. Am fanylion ewch i www.support4learning.org Gweler mwy o wybodaeth gan y Tîm Cyngor ac Arweiniad Lles Myfyrwyr. Cymorth ychwanegol Mae llawer o fyfyrwyr yn wynebu heriau ariannol ar ryw adeg yn ystod eu cwrs. Mae cyngor wrth law, ac mae’n bwysig eich bod yn ceisio cyngor cyn gynted â phosibl. Mae manylion ynghylch pwy sy’n gymwys a sut i wneud cais ar gael gan y Gyngor ac Arweiniad Lles Myfyrwyr. Cronfa ariannol wrth gefn Mae’r gronfa hon yn bodoli i ddarparu cymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n cael trafferth i gwrdd â’u costau byw, ac mae’n bosibl na fydd yn rhaid i unrhyw arian a roddir gael ei dalu’n ôl. Grantiau cychwynnol Ar gael i fyfyrwyr parhaus cymwys ac wedi’u bwriadu i dalu am gostau sy’n ymwneud â chychwyn eich cwrs academaidd, fel teithio, gofal plant, llyfrau, neu offer. Cysylltwch â niNid yw’r broses o ariannu eich astudiaethau yn un syml, ond mae cymorth ar gael. I siarad â rhywun am gyngor ac arweiniad pellach am ffioedd, bwrsarïau ac ysgoloriaethau Prifysgol Glyndŵr, neu wybodaeth gyffredinol am ariannu eich astudiaethau, cysylltwch â’r Tîm Cyngor ac Arweiniad Lles Myfyrwyr:
Mynediad israddedig rhan-amser y DU: 2010/11Cymorth ariannolOs ydych yn gwneud cais i astudio cwrs rhan-amser sy’n arwain at radd israddedig, fe allai cymorth ariannol fod ar gael. Bydd angen i chi lenwi ffurflen PTG1 wrth gofrestru, gydag adran chwech i’w chwblhau gan y Swyddfa Rhaglenni Myfyrwyr yn y Brifysgol. Mae faint o arian y gallwch ei gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol, y math o gwrs ac ym mha ran o’r DU yr ydych yn byw.
Grantiau nad oes rhaid eu talu’n ôlMae yna ddau fath o grant nad oes rhaid eu talu’n ôl ar gael; grant ffi (i helpu gyda ffioedd hyfforddi) a grant cwrs (i helpu gyda chostau astudio cysylltiedig e.e. llyfrau, defnyddiau, teithiau). Mae cyfanswm y grant ffi sydd ar gael yn dibynnu’n rhannol ar ddwyster eich cwrs, h.y. dwyster y cwrs o’i gymharu â chwrs llawn-amser cyfatebol. Nid oes cyfyngiad oedran ar gyfer ceisiadau am grant; fodd bynnag ni all myfyrwyr sydd â gradd yn barod wneud cais am y cymorth yma fel arfer. Yn ogystal, mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn darparu cynllun dileu ffioedd i fyfyrwyr cymwys sydd yn byw yng Nghymru, yn ddi-waith ac wrthi'n chwilio am waith, neu sy'n derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth. Ni fydd myfyrwyr sydd a gradd gyntaf yn barod yn gymwys i gael dileu eu ffioedd. am fwy o wybodaeth, cysylltwch a Lles a Chyllid Myfyrwyr ar 01978 293295 neu ebostiwch studentwelfare@glyndwr.ac.uk Lwfans Myfyrwyr AnablGall myfywyr rhan-amser gydag anableddau neu anawsterau dysgu penodol, sy’n astudio o leiaf 50% o gwrs llawn-amser, wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl. Myfyrwyr gyda dibynyddionMae grantiau ychwanegol ar gael i fyfyrwyr rhan-amser cymwys gyda dibynyddion gan eich awdurdod addysg lleol. Cronfa sriannol wrth gefnGall myfyrwyr sydd wedi cofrestru hefyd fod yn gymwys i wneud cais ar gyfer y gronfa yma, sy’n gallu talu am rai o’r costau/ffioedd sy’n gysylltiedig ag astudio yn rhan amser. Cysylltwch â’r Tîm Cyngor ac Arweiniad Lles Myfyrwyr am gymorth. Ysgoloriaeth mabolgampwyr dawnusMae gan Brifysgol Glyndŵr sawl bwrsari ac ysgoloriaeth y gellir eu gwobrwyo i fabolgampwyr dawnus a myfyrwyr sy’n cymryd rhan mewn mabolgampau. Mae’r gwobrau yn cynnwys Gwobrau Hoci a Gwobrau Pêl-fasged o hyd at £1,800. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth. Ysgoloriaeth gadawyr gofalMae Prifysgol Glyndŵr yn cynnwys ysgoloriaeth i adawyr ysgol cymwys sy’n astudio o £1,000 y flwyddyn o astudiaeth. Mae hyn yn unol ag Prifysgol Glyndŵr Marc Safon Ymddiriedolaeth Frank Buttle. Gall ysgoloriaethau eraill fod ar gael hefyd ar sail gystadleuol gan gyflogwyr, banciau neu gyrff dyngarol eraill. Fel man cychwyn, fe allech ddymuno chwilio ar y we neu ddefnyddio safle adnodd fel: http://www.scholarship-search.org.uk Gwybodaeth am ffioeddMae ffioedd hyfforddi ar gyfer myfyrwyr israddedig rhan-amser yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs a'r nifer o gredydau a ymgymerir. Am fwy o wybodaeth gweler ein gwefan amserlen y ffioedd 2010/11. Cysylltwch â niMae'r broses o ariannu astudiaethau rhan-amser yn wahanol i fyfyrwyr llawn-amser ac mae cymorth ar gael. I siarad â rhywun am gyngor ac arweiniad pellach am ffioedd, bwrsarïau ac ysgoloriaethau Prifysgol Glyndŵr, neu wybodaeth gyffredinol am ariannu eich astudiaethau, cysylltwch â’r Tîm Cyngor ac Arweiniad Lles Myfyrwyr:
Gwefannau defnyddiol eraill Asiantaethau ariannu
Mae ffurflennu ariannu ar gael ar-lein. YmwadiadTra bod Prifysgol Glyndŵr wedi cymryd pob cam i sicrhau fod yr wybodaeth a geir uchod yn gywir wrth fynd i’r wasg, fe allai’r wybodaeth a geir yn y daflen hon newid pe bai penderfyniadau a wneir y tu allan i’r Brifysgol yn effeithio ar bolisïau a gweithdrefnau o ran ffioedd, bwrsarïau, grantiau a benthyciadau. Noder hefyd fod myfyrwyr cymwys yn cael eu hailasesu bob blwyddyn ar gyfer ffioedd, benthyciadau a grantiau, a rhaid iddynt ail wneud cais i’w Hawdurdod Addysg Lleol ar y ffurflen berthnasol bob blwyddyn. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol, fe allech fod yn gymwys ar gyfer cymorth ariannol ar wahân i’r cymorth a ddisgrifir yn y daflen hon. Nodiadau1. Darperir datganiadau ffioedd ar gyfer dibenion canllaw yn unig. Gallai rhai cyrsiau fynd i gostau ychwanegol megis aelodaeth gyda chyrff proffesiynol neu ffioedd defnyddiau. Cysylltwch â ni am fwy o fanylion. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||