|
Rhydych chi yma:
Hafan > Ffioedd a chyllid myfyrwyr > Gwybodaeth Bwysig ar gyfer Myfywyr Sy'n dod o Gymru
|
||
|
|
Gwybodaeth Bwysig ar gyfer myfyrwyr sy'n dod o Gymru: Newidiadau i Gyllido Israddedigion ar Gyfer 2010/11Mae newidiadau mawr wedi digwydd i’r pecyn Grantiau a Benthyciadau sydd ar gael yn 2010/11 i fyfyrwyr sydd fel arfer yn byw yng Nghymru. Nid yw’r Grant Ffioedd Dysgu a oedd ar gael yn flaenorol i fyfyrwyr newydd yn ystod 2009 (a chyn 2009) ar gael mwyach i ymgeiswyr newydd yn 2010. Mae yna nifer o becynnau cyllid y gall myfyrwyr eu hawlio yn dibynnu ar eu hamgylchiadau personol, eu cwrs astudio, ffordd astudio ac ati. Nid yw rhai myfyrwyr yn bodloni’r meini prawf preswyl yn llawn ac/neu wedi astudio ar gwrs addysg uwch o’r blaen ac felly efallai nad ydynt yn gymwys i gael unrhyw gymorth. Cysylltwch â'r tîm gwasanaeth Cyllid a Lles Myfyrwyr i gael rhagor o wybodaeth. Gall tîm o gynghorwyr profiadol/swyddogion gwybodaeth eich tywys trwy'r broses cyllid myfyrwyr. Gwybodaeth Cysylltu – Tîm Cyllid a Lles Myfyrwyr |
|