Head divider

Ganolfan Ymchwil Defnyddiau, Peirianneg a Gweithgynhyrchu

Mae’r Ganolfan Ymchwil Defnyddiau, Peirianneg a Gweithgynhyrchu yn cyfuno sawl elfen o ymchwil rhyng-gysylltiedig o statws cenedlaethol a rhyngwladol gan gynnwys defnyddiau cyfansawdd uwch, opteg dra manwl ar raddfa fawr, polymerau toddadwy mewn dŵr, ffotofoltäeg a deinameg hylifol.

Mae’r Ganolfan yn canolbwyntio ar ymchwil gymwysedig gan gynhyrchu canlyniadau y gellir eu cymhwyso mewn ystod eang o sectorau diwydiannol.

Grwpiau Ymchwil

Mae’r staff a’r myfyrwyr ymchwil wedi eu lleoli ar brif gampws Plas Coch yn Wrecsam, ac yn y cyfleusterau arbenigol yn Llanelwy (ble ymgymerir ag ymchwil ffotofoltäeg ac opteg dra manwl ar raddfa fawr) a Brychdyn (sy’n gartref i’r Ganolfan Hyfforddi a Datblygu Cyfansoddau Uwch).

Mae’r grwpiau ymchwil sy’n canolbwyntio ar faterion penodol yn cynnwys:

  • Canolfan Ymchwil Ynni Heulol
  • Canolfan Polymerau Toddadwy mewn Dŵr
  • Canolfan Ymchwil Hydrocoloidau Glyn O. Phillips
  • Labordy Ymchwil Defnyddiau Uwch

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Richard Day.