Mae’r Uned Ymchwil Cynhwysiad Cymdeithasol (SIRU) yn Ganolfan Ymchwil sydd wedi ei lleoli o fewn y Sefydliad Iechyd, Gwyddorau Meddygol a Chymdeithas.
Sefydlwyd SIRU o dan Fenter Datblygu Cynhwysedd Ymchwil Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn 2003 gyda’r nod o ddatblygu, cynnal a dosbarthu ymchwil ym maes anghydraddoldebau cymdeithasol.
Wedi ei lleoli yn Wrecsam, Gogledd Cymru, mae’r Ganolfan mewn lle da i ddarparu ymchwil a gwerthusiad i ardal ddaearyddol sydd yn y gorffennol wedi profi prinder adnoddau ymchwil.
Mae llawer o arbenigedd ymchwil yng Nghymru wedi ei leoli yn Ne Cymru ac yn arbennig o gysylltiedig gyda’r brifddinas, Caerdydd.
Mae yna, fodd bynnag, wahaniaethau diwylliannol ac ieithyddol o bwys rhwng De a Gogledd Cymru, y mae SIRU yn gymwys i fynd i’r afael â hwy.
Mae aelodau’r ganolfan yn gyfrawydd ag amrywiaeth leol/ranbarthol ac yn cyflenwi gwasanaeth ymchwil dwyieithog.
Mae SIRU yn amcanu i:
• gyfrannu at well dealltwriaeth o faterion sy’n effeithio ar brofiadau a chyfleoedd bywyd pobl Cymru;
• gwasanaethu anghenion ymchwil budd-ddeiliaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol;
• datblygu màs critigol staff ymchwil weithredol ym Mhrifysgol Glyndŵr;
• hyrwyddo ymchwil er mwyn hysbysu ac ategu cwrciwla;
• cael ei chydnabod fel canolfan o ragoriaeth ymchwil.
Mae gan gyfarwyddwraig SIRU, Yr Athro Odette Parry, gefndir cadarn mewn dau faes ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol (sef addysg a hybu iechyd) ac mae ei diddordebau ymchwil presennol yn canolbwyntio ar anghydraddoldebau cymdeithasol ac ymddygiadau sy’n gysylltiedig â risg.
Yn ogystal ag Odette Parry, mae gan y Ganolfan bump o aelodau craidd; , Iolo Madoc-Jones, Emily Warren, Lynne Kennedy a Caroline Metcalf.
Cyrhaeddodd Julian Buchanan, sydd yn Athro Cyfiawnder Troseddol a Chymunedol ym Mhrifysgol Glyndŵr, yn gymharol hwyr i’r byd academaidd o yrfa yn y gwasanaethau prawf a chyffuriau.
Mae ganddo gefndir cadarn mewn camddefnyddio sylweddau ac mae ei ddiddordebau ymchwil presennol yn canolbwyntio yn bennaf ar anghydraddoldebau cymdeithasol ac ymddygiadau risg.
Prawf yw disgyblaeth wreiddiol Iolo Madoc-Jones ac ef yw’r Prif Ddarlithydd mewn Cyfiawnder Troseddol ym Mhrifysgol Glyndŵr.
Mae arbenigedd a diddordebau ymchwil presennol Iolo yn canolbwyntio yn bennaf ar faterion yn ymwneud â’r iaith Gymraeg, cyfiawnder troseddol a chymdeithasol.
Mae Dr Lynne Kennedy yn Uwch Ddarlithydd mewn Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Glyndŵr. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys maeth iechyd cyhoeddus a hybu iechyd.
Mae Dr Caroline Metcalf yn Ddarlithydd mewn Cyfiawnder Troseddol gyda Chefndir ym maes Prawf. Mae ei diddordebau ymchwil presennol yn cynnwys camweddau cyfiawnder o fewn y system gosb Brydeinig. Ers mis Medi 2005, mae SIRU wedi cyflogi cynorthwy-ydd ymchwil lawn amser, Emily Warren, sydd wedi cyfrannu at amryw o astudiaethau gwerthuso blaenorol a chyfredol. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys plant a phobl ifanc, anghydraddoldebau iechyd a hybu iechyd.
Yn ogystal â’r aelodau craidd, mae gan SIRU wyth o aelodau cyfrannog; Yr Athro Chris Lewis, yr Athro Rob Poole, Sarah Dubberley, Caroline Hughes, Sally Baker, Vicki Woodward, Karen Roscoe a Susan Wighton.
Ar hyn o bryd mae Andrew Pithouse: Athro Gwaith Cymdeithasol, Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol caerdydd yn Athro gwadd yn SIRU.
Mae ef a Paul Senior: Cyfarwyddwr Canolfan Hallam ar gyfer Cyfiawnder Cymunedol, Prifysgol Sheffield Hallam, a fu am gyfnod yntau yn Athro gwadd, ill dau wedi cyfrannu at brosiectau SIRU blaenorol a chyfredol gan gynnwys: astudiaethau gwmpasu Eiriolaeth Plant (Pithouse); Gwerthusiad o wasanaeth cefnogi ffon dwyieithog (Pithouse); Datblygiad y Fframwaith Asesu Cyffredin (Pithouse); gwerthusiad o raglen Datrys Anghydfod (Pithouse); gwerthusiad o raglen beilot Datrys Anghydfod Teuluol CAFCASS yng Ngogledd Cymru (Pithouse); Cyflenwi a Derbyn y DofE imewn Mannau Diogel (Pithouse) a dau werthusiad o ymyriadau cyffuriau (DAWN) (Senior).
Mae gan SIRU gysylltiadau ymchwil cydweithrediadol cryf gyda’r Ganolfan Ymchwil Iechyd a Chymuned (CYICh) ym Mhrifysgol Glyndŵr University.
Mae’r ddwy Ganolfan wedi cydweithedu ar werthusiadau wedi’u harwain gan SIRU ar ymyriad cyffuriau (CAIS), a’r Cynllun Brecwast Ysgol Am Ddim (Llywodraeth Cynulliad Cymru). Ar hyn o bryd mae SIRU yn cydweithredu gyda CYICh ar ddau werthusiad wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC), ac astudiaeth Gwobr Dug Caeredin.
Mae llwyddiant y cydweithrediad rhwng y Canolfannau yn adlewyrchu y diddordebau y maent yn eu rhannu, a hysbysir gan y gwahanol safbwyntiau disgyblaethol sy’n uno gogwydd gwasanaethau iechyd (nyrsio) CYICh gdya safbwynt gwyddor cymdeithasol SIRU. Mae’r gwahanol ddiddordeb disgyblaethol hyn yn ymuno i fynd i’r afael â materion anghydraddoldebau cymdeithasol ac iechyd, trwy ymchwilio i ymddygiadau, credoau, mudiadau a darpariaeth gwasanaethau.
Enghraifft arall o’r modd y mae’r ddwy Ganolfan yn cydweithredu yw casgliad y Brifysgol Agored o erthyglau a olygwyd gan Carnwell a Buchanan am weithio mewn partneriaeth. Bydd yr ail argraffiad, sydd wedi denu darllenwyr disgyblaethol ac ymarferyddol eang, yn cael ei gyhoeddi yn 2008.
Am fwy o wybodaeth am yr Uned Ymchwil Cynhwysiad Cymdeithasol, dilynwch y dolenni isod:
• gweithgaredd ymchwil SIRU
• myfyrwyr ymchwil uwchraddedig
• Cysylltu â ni