Y canolfannau ymchwil
Mae gan Brifysgol Glyndŵr bump canolfan ymchwil yn y brifysgol gan gynnwys staff a myfyrwyr ym mhob un o feysydd academaidd y Brifysgol. Mae canolfannau ymchwil y brifysgol yn meithrin a chefnogi
- datblygiad staff a myfyrwyr ymchwil
- gweithio rhyngddisgyblaethol
- datblygu prosiectau strategol
- datblygiad cwricwlwm ar gyfer rhaglenni a addysgir
Canolfannau ymchwil y brifysgol
- Ymchwil Greadigol a Chymwysedig ar gyfer y Gymdeithas Ddigidol
- Canolfan Ymchwil Rheolaeth
- Canolfan Ymchwil Defnyddiau, Peirianneg a Gweithgynhyrchu
- Canolfan Iechyd, Lles a Chymdeithas
- Canolfan Ymchwil Seicoleg
Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hymchwil o’n Swyddfa Ymchwil. Dylai cyrff allanol sydd â diddordeb mewn trafod sut y gallai’r brifysgol gefnogi eu hanghenion ymchwil gysylltu a’n cynghorwyr yn Arloesiadau Glyndŵr.
