Gofynion mynediad ar gyfer graddau ymchwil
Gall myfyrwyr graddau ymchwil gael eu cofrestru fel ymgeiswyr ar gyfer un o’r posibiliadau canlynol:
- MPhil neu
- MPhil gyda phosibilrwydd o gael trosglwyddiad i PhD (MPhil/PhD) neu
- PhD
Er mwyn cael eu derbyn fel ymgeiswyr ar gyfer MPhil, gyda neu heb y posibilrwydd o gael trosglwyddiad i PhD, bydd gofyn i’r ymgeiswyr:
(a) fel arfer feddu ar radd Anrhydedd y DU gydag anrhydedd ail ddosbarth uwch o leiaf, neu gymhwyster academaidd neu broffesiynol sy’n gyfwerth yn nhyb y Pwyllgor Graddau Ymchwil; ac
(b) arddangos gallu yn y defnydd o’r Gymraeg neu’r Saesneg i foddhad y Pwyllgor Graddau Ymchwil. Fel arfer gofynnir am Sgôr IELTS o 7, ym mhob elfen ar gyfer myfyrwyr nad yw eu mamiaith yn Gymraeg na Saesneg. Tybier y bydd myfyrwyr sydd wedi astudio yn y DU am dair blynedd o fewn y chwe blynedd blaenorol neu sy’n meddu ar radd Baglor neu Feistr y DU wedi arddangos gallu o’r fath; a
(c) darparu o leiaf dau eirda, yn ymwneud â gallu academaidd yr ymgeisydd a’i addasrwydd i gynnal ymchwil.
Derbyniadau uniongyrchol a chofrestru ar gyfer PhD
Er mwyn cael eu derbyn yn uniongyrchol fel ymgeisydd ar gyfer PhD, bydd ymgeisydd fel arfer yn meddu ar, yn ogystal â’r gofynion uchod, radd Meistr y DU mewn pwnc perthnasol, oedd yn cynnwys elfen o ymchwil, a ddyfarnwyd fel arfer o fewn pum mlynedd cyn dyddiad y cais, neu gymhwyster academaidd neu broffesiynol sy’n gyfwerth yn nhyb y Pwyllgor Graddau Ymchwil.
Dylid nodi fod y cyfeiriad uchod at radd Meistr y DU yn ymwneud â chymhwyster Meistr sydd ar lefel uwchraddedig yn hytrach nag ar lefel israddedig. Fel arfer, ni fyddai rhaglenni “meistri Israddedig” neu “feistri integredig” sy’n ffurfio rhan o raglen israddedig yn cael eu hystyried yn ddigonol.
