Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Graddau ymchwil

Mae Prifysgol Glyndŵr yn croesawu ceisiadau ar gyfer graddau ymchwil. Mae’r Brifysgol yn cynnig cymwysterau MPhil (Meistr mewn Athroniaeth) a PhD (Doethur mewn Athroniaeth). Mae gradd ymchwil uwchraddedig yn eich galluogi i ymgymryd ag astudiaeth fanwl, annibynnol mewn maes penodol.

Gall ymchwil ar lefel uwchraddedig ymwneud â gwaith ymgynghori a/neu brosiectau ymchwil wedi’u comisiynu. Gellir cynnal y rhain am gyfnodau amrywiol o amser ac mewn ystod o lefelau. Mae’r broses yma yn digwydd mewn un o ddwy ffordd: cyrff sy’n mynd ati i chwilio am ysgolheigion i gydweithio â hwy er mwyn datrys problemau o fewn eu maes arbenigol. Fel arall fe allai myfyrwyr ddilyn prosiect neu bwnc ymchwil y maent wedi cytuno arno gyda’u goruchwylydd nad ydyw’n gysylltiedig â chorff allanol.

Mae Prifysgol Glyndŵr yn cynnig hyfforddiant ymchwil generig a phwnc benodol. Mae’r hyfforddiant goruchwylydd yn y Brifysgol yn rhan o raglen datblygu staff arloesol a gydnabyddir gan yr Academi Addysg Uwch fel un sy’n arloesol yn ei faes.

Mae’r Rhaglen Sgiliau Myfyrwyr Ymchwil wedi’i chynllunio i gynorthwyo gyda’ch sylfaen sgiliau wrth i chi fwrw ati gyda’ch ymchwil, a chynhyrchu eich traethawd estynedig yn nes ymlaen, a pharatoi ar gyfer eich Viva Voce. Mae’r set o raglenni generig a phwnc benodol yn eich cefnogi yn eich ymchwil. Mae’r rhain yn cynnwys sgiliau TG, sgiliau cyflwyno, sgiliau llyfrgell ac adfer gwybodaeth a delio gyda materion Eiddo Deallusol. Rhedir seminarau hyfforddi ymchwil twry gydol y flwyddyn.

Mae’r tudalennau gwe yn yr adran yma yn amlygu ein canolfannau ymchwil yn ogystal â rhywfaint o’r ymchwil a ymgymerir yn ein meysydd pwnc. Yr ydym bob amser yn ymgymryd â phrosiectau ymchwil newydd, cyffrous, felly cariwch ymlaen i wirio er mwyn cael gwybod am ein datblygiadau diweddaraf.

Cefnogir myfyrwyr graddau ymchwil gan y Swyddfa Uwchraddedig.

Gweler mwy o wybodaeth ynghylch gwneud cais am radd ymchwil.

Gweler mwy o wybodaeth am gyllido a allai fod ar gael i chi ymgymryd ag ymchwil.

Ein hymchwil