
Ein hymchwil
Mae Prifysgol Glyndŵr yn ymfalchïo ei bod yn ymgymryd ag ymchwil o ansawdd uchel, gyda llawer o’r ymchwil wedi’i hanelu at ddatrys problemau diwydiannol neu gymdeithasol.
Gellir dod o hyd i ffeithiau allweddol am ein hymchwil ac enghreifftiau o brosiectau a gweithgareddau ymchwil o bwys yn ein Adroddiad Ymchwil Blynyddol. Mae detholiadau cyhoeddedig o’n hymchwil ar gael o’n Ystorfa Ymchwil ar-lein. Mae ein hagwedd gyffredinol at ddatblygu ein hymchwil wedi’i chynnwys yn ein Strategaeth Ymchwil.
Rydym yn ymwneud â phrosiectau ymchwil ar raddfa fechan, megis helpu busnesau lleol i ddatrys problemau, i rai mawr iawn, megis helpu i ddatblygu uwch-dechnolegau optegol ar gyfer telesgop seryddol mwya’r byd, a fydd yn cael ei adeiladu yn Arsyllfa De Ewrop. Mae’r pwyslais bob amser ar ddatrys problemau a defnyddio ein syniadau diweddaraf a’n gwybodaeth dechnegol o’r radd flaenaf, a chydnabyddwyd rhywfaint o’r ymchwil “o ddosbarth rhyngwladol” yn yr Ymarfer Asesu Ymchwil diweddaraf.
Cydlynir gweithgareddau ymchwil y brifysgol trwy ein canolfannau ymchwil. Mae’r myfyrwyr ymchwil yn perthyn i ac yn cael ei cefnogi gan ein Ysgol i Raddedigion. Rydym hefyd yn cymryd rhan ym Menter CREST GuildHE a’r Grŵp Ymchwil Prifysgolion Modern a thrwy hyn yn cydweithredu ar gefnogaeth a hyfforddiant ymchwil gyda sefydliadau eraill.
Ceir gwybodaeth am rai o’r datblygiadau diweddaraf yn ein gweithgareddau ymchwil cyfredol yn ein cylchlythyr ymchwil, Yr Ymchwilydd. Mae gennym gyfres o Ddarlithoedd Athrawol rheolaidd agored ble mae ein harbenigwyr yn rhoi sgyrsiau i’r cyhoedd am eu syniadau a’u meddyliau diweddaraf, ac mae’r canolfannau ymchwil hefyd yn rhedeg rhaglenni seminar.
Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hymchwil o’n . Dylai cyrff allanol sydd â diddordeb mewn trafod sut y gallai’r brifysgol gefnogi eu hanghenion ymchwil gysylltu a’n cynghorwyr yn Arloesiadau Glyndŵr.

