Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Pentre Wrecsam

A redir gan Wrexham Village Ltd

Wrexham village pic 1 welsh

wrexham village welsh with exterior pic

Drws nesaf i Gampws Plas Coch Prifysgol Glyndŵr mae Pentre Wrecsam, y cyfadeilad tai myfyrwyr £40 miliwn newydd.

Dyma ein llety diweddaraf gyda’r bloc cyntaf (John Neal) yn cael ei gwblhau ym Medi 2010 a’r ail floc (Erddig) wedi’i gwblhau yn ddiweddar ym Medi 2011. Dyma ein llety drutaf a mwyaf moethus hyd yn hyn, felly am gost ychwanegol gallwch gael llety o ansawdd o’r radd flaenaf sy’n cynnwys ystafell wely, cegin a lolfa wedi’u dodrefnu’n drawiadol.

Gwybodaeth gyffredinol

  • Mae Pentre Wrecsam yn cynnwys 350 ystafell sengl o ansawdd uchel sydd wedi’u rhannu yn 2 floc
  • Yn y 2 floc yma, mae’r ystafelloedd wedi’u rhannu yn fflatiau (neu bodiau) o 6/7/8 gyda cheginau a lolfeydd ar y cyd gydag ambell lolfa yn cynnwys teledu Plasma, sgrîn fflat
  • Mae gan bob ystafell ystafell ymolchi en suite sy’n cynnwys sinc, drych, cawod a thoiled
  • Mae yna nifer gyfyngedig o ystafelloedd dwbl ar gael hefyd
  • Mae Swyddfa Llety Pentre Wrecsam wedi’i lleoli ym mloc John Neal ble gall aelod o staff Wrexham Village Ltd roi gwybodaeth i chi a’ch helpu gydag unrhyw broblemau
  • Rhoddir pwyslais mawr ar ddiogelwch ym Mhentre Wrecsam ac ar hyn o bryd mae yna ddefnydd eang o deledu cylch cyfyng a hyd yn oed mwy o arian yn cael ei fuddsoddi mewn camerâu teledu cylch cyfyng ychwanegol
  • Mae yna system diogelwch cerdyn llithro mewn grym ar gyfer pob mynediad i Bentre Wrecsam a staff diogelwch ar y safle 24 awr
  • Mae yna gyfleusterau golchi dillad ar y safle
  • Mae yna lefydd parcio cyfyngedig ym Mhentre Wrecsam gyda blaenoriaeth i bobl gydag anableddau neu anghenion arbennig
Wrexham Village welsh with interior pic 2

Lleoliad

Mae Pentre Wrecsam yn ddim ond:

  • 2 munud i ffwrdd ar droed o Gampws Plas Coch Prifysgol Glyndŵr
  • 5 munud i ffwrdd ar droed o Orsaf Drenau Ganolog Wrecsam
  • 10 munud i ffwrdd ar droed o Orsaf Fysiau Wrecsam
  • 10 munud i ffwrdd ar droed o Ganol Tref Wrecsam

Argaeledd

Mae Pentre’r Myfyrwyr ar gael i:

  • Israddedigion newydd o’r DU/UE (blwyddyn gyntaf yn y brifysgol)
  • Israddedigion o’r DU/UE sy’n dychwelyd
  • Israddedigion newydd Rhyngwladol (blwyddyn gyntaf yn y brifysgol)
  • Israddedigion Rhyngwladol sy’n Dychwelyd
  • Uwchraddedigion newydd o’r DU/UE (bwyddyn gyntaf yn y brifysgol)
  • Uwchraddedigon o’r DU/UE sy’n Dychwelyd
  • Uwchraddedigion Rhyngwladol Newydd (blwyddyn gyntaf yn y brifysgol)Uwchraddedigion Rhyngwladol sy’n Dychwelyd
Ein cymorth i fyfyrwyr