Gweithdrefn Gwyno
Os oes gennych unrhyw sylwadau am ansawdd neu ddarpariaeth gwasanaethau a chyfleusterau, yna dylech sôn am hyn cyn gynted ag y bo modd wrth aelod o dîm y Ddesg Wybodaeth (SID). Caiff pob cwyn/sylw eu trin yn hollol gyfrinachol. Bydd yr Ymgynghorwyr Gwasanaeth Cwsmeriaid yn ceisio ymateb yn brydlon ac yn deg trwy:
- roi cyngor a chymorth os gofynnir amdanynt
- rhoi gwybod i chi beth sy’n digwydd gyda’ch sylw neu gŵyn
Dyma enghreifftiau o ymddygiad a allai gael ei ystyried fel camymddwyn, ond nid ydynt yn gyfyngedig i’r canlynol: -
Torri unrhyw un o'r ymrwymiadau sydd yn yr Amodau Deiliadaeth/Conditions of Occupancy.
- Ymosodiad corfforol neu rywiol ar berson arall.
- Aflonyddu neu fwlio parhaus ar berson arall.
- Difrod bwriadol i eiddo.
- Dwyn neu dwyllo.
- Cam-drin/difrïo yn llafar.
- Post neu ohebiaeth ddifrïol ac ymosodol drwy ddulliau electronig.
- Esgeulustod difrifol sy’n achosi colled, difrod neu anaf annerbyniol.
- Amharu ar iechyd a diogelwch gan achosi perygl i bobl neu eiddo.
- Analluedd oherwydd alcohol.
- Defnyddio sylweddau anghyfreithlon neu fod â rhai yn eich meddiant.
- Camymddwyn yn ymwneud ag astudiaethau proffesiynol myfyriwr.
- Camymddwyn yn ymwneud ag ymarfer a lleoliadau gwaith maes.
- Unrhyw weithred sy’n cael ei hystyried i fod yn rhoi enw drwg i’r Sefydliad.
- Unrhyw weithred sy’n digwydd naill ai ar eiddo Prifysgol Glyndŵr neu oddi arno a allai yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol effeithio ar fuddiannau Prifysgol Glyndŵr.
Nid bwriad y rhestr hon yw bod yn gynhwysfawr a gall unrhyw weithredu a ystyrir sy’n dwyn anfri ar Brifysgol Glyndŵr arwain at ddefnyddio’r gweithdrefnau disgyblu.
Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y gall ymddygiad sy’n dod o fewn cwmpas y gweithdrefnau hyn hefyd fod yn destun cyhuddiad troseddol. Nid yw gwrandawiad llys sydd ar fin digwydd neu ymchwiliad gan yr heddlu o reidrwydd yn golygu gohirio gweithredu yn unol â’r gweithdrefnau hyn. Mae gan y Prifathro/Prif Weithredwr neu enwebai yr hawl i wahardd myfyriwr wrth aros am wrandawiad i gŵyn.
Cyflwyno Cwyn
Gall cwyn ffurfiol am ymddygiad a ddisgrifir yn y paragraffau uchod ei wneud gan unrhyw fyfyriwr neu aelod o staff y Sefydliad neu gan bersonau neu asiantaethau sy’n allanol i’r Sefydliad. Rhaid i’r gŵyn fod yn ysgrifenedig a rhaid rhoi gwybod i Bennaeth y Gwasanaethau Masnachol.
Egwyddorion
Dim ond ar ôl ymchwiliad llawn i’r achos y caiff camau disgyblu eu cymryd yn erbyn myfyriwr.
Ar bob cam bydd myfyriwr yn cael y cyfle i gyflwyno ei achos, ac yn cael eu cynrychioli, os ydynt yn dymuno, mewn unrhyw wrandawiad gan swyddog o Undeb y Myfyrwyr neu gan ffrind.
