Cwestiynau Cyffredin
1. Sut allaf ddod o hyd i lety?
Gallwch wneud cais am lety trwy ein system gwneud cais ar-lein.
2. A oes angen i mi gysylltu â chi?
Os ydych wedi dod o hyd i’ch llety eich hun, neu wedi penderfynu nad ydych am ddod i Brifysgol Glyndŵr eleni, a wnewch chi roi gwybod i’r tîm llety fod eich amgylchiadau wedi newid trwy ffonio 01978 293344.
Dylech hefyd gysylltu â ni os nad yw’r wybodaeth a roddwyd i ni yn gywir mwyach, er enghraifft, os ydych wedi datblygu problem feddygol, neu os yw eich gwybodaeth gyswllt wedi newid.
3. A allaf newid fy llety?
Bydd angen i chi gysylltu â’r Gwasanaethau Llety (ar ôl i chi gyrraedd) os nad ydych yn fodlon gyda’ch llety. Nid oes sicrwydd y byddwch yn gallu newid eich llety, ond mae croeso i chi drafod eich pryderon gyda chynghorydd gwasanaeth cwsmeriaid.
(Cofiwch – byddwch wedi arwyddo cytundeb yn rhwymo mewn cyfraith yn benodol ar gyfer eich ystafell am gyfnod penodol).
4. Beth am lety ar gyfer myfyrwyr clirio?
Nid ydym yn gwarantu llety i fyfyrwyr clirio ond eleni rhagwelwn y byddwn yn gallu cynnig llety i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr clirio. Gallai hyn fod yn llety dros dro yn unig i ddechrau nes bydd llety parhaol addas ar gael.
Os ydych yn byw yn lleol neu’n gallu cymudo i Brifysgol Glyndŵr, mae’n bosib y gofynnwn i chi aros adref am yr wythnosau cyntaf yn hytrach nag mewn llety dros dro nes y bydd yna le ar gael. Yn yr achos yma byddwn yn eich ffonio i’ch hysbysu. Er bod ein llety i gyd fel arfer yn llawn ar ddechrau’r semestr, mae yna lefydd ar gael o fewn ychydig wythnosau.
Dim ond ar ôl i’r mwyafrif o fyfyrwyr eraill gael llety y gallwn ddechrau rhoi llety i fyfyrwyr clirio. O ganlyniad, mae’n bosib na chewch wybod ble y byddwch yn byw hyd at ryw ddeuddydd cyn i chi ddod i Wrecsam. Fodd bynnag, byddwn yn ceisio gadael i chi wybod cyn gynted â phosib.
Fel myfyrwyr clirio, mae’n annhebygol y byddwn yn gallu cynnig eich dewis lety i chi ac mae’n fwy tebygol y cewch gynnig rhannu ystafell. Fodd bynnag, byddwch fel arfer yn gallu symud i lety prifysgol arall ar ôl yr wythnosau cyntaf os ydych yn anhapus.
5. A allaf newid fy newisiadau?
Hwyrach na fydd yn bosib newid eich dewisiadau gan ei bod yn bosib y bydd eich llety wedi cael ei neilltuo yn barod. Os nad ydyw, byddwn yn ceisio gwneud hyn. A wnewch chi gysylltu â ni gyda’ch enw a’ch dewisiadau newydd. Byddwn yn ceisio cwrdd â’r dewisiadau newydd hyn er nad yw hyn bob amser yn bosib. Bydd angen cadarnhad ysgrifenedig arnom hefyd. Gallwch yrru hyn trwy lythyr, ffacs neu ebost.
6. Beth os na chlywaf gennych?
Os na fyddwch wedi derbyn cytundeb erbyn y 10fed o Fedi 2012 ac yn pryderu am eich llety, mae croeso i chi gysylltu â ni: -
Rhif ffôn: 01978-293344
Ebost: llety@glyndwr.ac.uk
7. A oes problem os byddaf ar wyliau ym mis Medi?
Os byddwch i ffwrdd oddi cartref am fwy nag wythnos ddechrau Medi, cofiwch wirio eich ebyst am eich cytundeb ar ôl dychwelyd. Bydd eich cynnig am lety ar agor am 14 diwrnod yn unig (yn hirach os nad ydych yn byw yn y DU). Os na fyddwch wedi ateb, byddwn yn cymryd yn ganiataol nad ydych eisiau’r cynnig ac yn rhoi’r ystafell i fyfyriwr arall.
8. Pa lety fyddwch yn ei gynnig i mi?
Byddwn yn ceisio cynnig un o’ch dewisiadau i chi ond yn anffodus ni allwn warantu unrhyw beth.
9. Rwyf yn rhannu ystafell, beth allaf ei wneud am y peth?
Mae nifer o’n llefydd yn ystafelloedd ar y cyd. Dim ond nifer fechan iawn o fyfyrwyr sy’n dymuno rhannu ac mae hyn yn golygu fod yn rhaid i ni neilltuo rhai ystafelloedd ar y cyd i bobl a fyddai wedi dymuno cael ystafell sengl. Mae’r tîm llety yn cymryd gofal arbennig wrth neilltuo’r ystafelloedd hyn. Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n rhannu ystafell yn cyd-dynnu’n dda iawn ac yn aros yn yr un ystafell trwy’r flwyddyn. Ond os byddwch yn penderfynu yr hoffech symud, gallwn weithiau eich symud yn nes ymlaen yn ystod y tymor cyntaf, i ystafell sengl fel arfer.
10. A ellir fy symud i lety ar y campws?
Nid yw pob llety ar y campws, a hwyrach y byddwch yn penderfynu yr hoffech symud i lety ar y campws. Hwyrach na fydd yn bosib eich symud yn syth os na fydd lle ar gael ar y campws, ond rhaid i chi roi gwybod i’r tîm llety pe hoffech symud (gan roi eich resymau dros hynny). Yna byddwch yn cael eich rhoi ar restr aros ar gyfer llety o’ch dewis chi. Fe’ch hysbysir cyn gynted ag y bydd ystafell ar gael.
11. Ni allaf fforddio llety. A allwch gynnig rhywbeth rhatach i mi?
Os na allwch fforddio’r llety a gynigiwyd i chi, fe geisiwn gynnig llety rhatach, mwy sylfaenol i chi.
Er mwyn i ni allu gwneud hyn, mae angen i chi ysgrifennu neu anfon ebost at y gwasanaethau llety yn esbonio’r amgylchiadau, gan roi gymaint o fanylion â phosib.
12. A allwch roi cynnig arall o lety i mi?
Dim ond un cynnig o lety y gall y tîm llety ei roi cyn dechrau’r tymor gan fod yn rhaid i ni brosesu ceisiadau gan nifer fawr o fyfyrwyr ar ôl y canlyniadau lefel-A.
Os byddwch yn penderfynu gwrthod y cynnig, mae’n bosib na allan gynnig unrhyw beth arall i chi. Ni fyddwn yn gwneud ail gynnig o lety nes y bydd pawb arall wedi derbyn cynnig cyntaf, ac nid ydym yn rhagweld y bydd gennym unrhyw lefydd gwag ar ddechrau’r semestr. Fodd bynnag, mae yna gyflenwad da iawn o letyau preifat ar rent yn Wrecsam; cliciwch yma am fwy o fanylion.
13. Pa wybodaeth sydd yn y cytundeb?
Mae eich cytundeb yn cynnwys eich manylion personol a’ch manylion archebu sy’n dangos yr ystafell a neilltuwyd ar eich cyfer.
Mae eich cytundeb hefyd yn dangos y swm sydd angen i chi ei dalu am eich ffioedd llety, eich telerau ac amodau ariannol, a thelerau ac amodau deiliadaeth.
Ceir gwybodaeth am fyw mewn llety Prifysgol Glyndŵr a symud i’r llety yn adran cyrraedd ac ymsefydlu ar-lein y system gwneud cais ar-lein.
14. A oes rhaid i mi dalu blaendal?
Pan fyddwch yn derbyn eich cytundeb, gofynnir i chi dalu blaendal o £250. Tynnir y blaendal yma o’ch rhandaliad cyntaf.
15. A allaf ddod i weld fy llety cyn i mi symud i mewn?
Os ydych yn dymuno gweld eich llety cyn symud i mewn, cysylltwch â’r tîm llety a bydd apwyntiad yn cael ei wneud i chi.
