|
Text begins here:
Cyflogadwyedd
Mae gradd o Brifysgol Glyndŵr yn cael swydd i chi
Mae graddedigion Prifysgol Glyndŵr mewn lle da i gael swyddi diolch i gysylltiadau agos y Brifysgol gyda busnes, ei chyrsiau galwedigaethol berthnasol a’i gwasanaeth gyrfaoedd gwych. Dengys canlyniadau diweddaraf Arolwg Cyrchfan Gadawyr Addysg Uwch 2010 fod 94.7% o’n myfyrwyr wedi mynd ymlaen i gael gwaith chwe mis ar ôl graddio.
Mae cysylltiadau Prifysgol Glyndŵr gyda busnes yn galluogi lleoliadau gwaith myfyrwyr, fel y gall myfyrwyr gael profiad gwaith sy’n gysylltiedig â’u cwrs. Maent hefyd yn golygu fod cyrsiau wedi’u cynllunio gyda chyngor busnesau a chyrff proffesiynol ar lefel leol a chenedlaethol i adlewyrchu newidiadau mewn diwydiant ac i gwrdd ag anghenion cyflogwyr. Mae gwaith prosiect ar gyrsiau yn aml yn seiliedig ar sefyllfaoedd go iawn ac yn aml yn golygu gweithio gyda chwmni i ddatblygu datrysiadau i broblemau masnachol real.
Mae ein cyrsiau wedi’u cynllunio i alluogi graddedigion i ‘daro’r ddaear yn rhedeg’ yn y gweithle trwy ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy a chymwyseddau allweddol trwy gydol eu hastudiaethau. Mae myfyrwyr ym Mhrifysgol Glyndŵr yn dysgu sut i weithio yn effeithiol ar eu pennau eu hunain ac mewn grwpiau; rheoli eu hamser; bod yn ymwybodol o fusnes ac yn hunan-ysgogol; a datblygu sgiliau mewn creadigrwydd, datrys problemau, dadansoddi ac ymchwil, TG a chyfathrebu, a chyflwyno. Maent hefyd yn datblygu eu gwybodaeth pwnc benodol. Mae’r Ganolfan Yrfaoedd yn y Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a gwasanaethau i fyfyrwyr a graddedigion fel ei gilydd, sy’n eu helpu i gael profiad gwaith a chyflogaeth. Mae cyngor ynghylch gyrfaoedd ar gael unrhyw adeg yn ystod eu hastudiaethau yn ogystal â phan fyddant yn graddio, ac mae’r Ganolfan yn rhedeg nifer o weithdai am baratoi ar gyfer cyfweliadau, dulliau cyfweld, ysgrifennu CV a hunan-gyflogaeth. Yr ydym hefyd yn rhedeg sawl cynllun i helpu myfyrwyr a graddedigion ddod o hyd i leoliadau gwaith a chael profiad gwaith.
|