Bwriad y Ganolfan Yrfaoedd ym Mhrifysgol Glyndŵr yw darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad diduedd a phroffesiynol i fyfyrwyr a graddedigion. Mae’r Ganolfan Yrfaoedd hefyd yn cynnig nifer o wasanaethau i gyflogwyr a staff academaidd. Cysylltwch â 01978 293240 neu ebostiwch careerscentre@glyndwr.ac.uk
Dyma grynodeb o’r gwasanaethau Gyrfaoedd sydd ar gael:
- Cyngor gyrfaoedd: cael cyfweliadau arweiniad gyrfaoedd; gwneud apwyntiadau i siarad gyda Chynghorydd Gyrfaoedd ac Earweiniad yn ogystal
- Siop Swyddi: wedi’i lleoli yn adeilad Urdd y Myfyrwyr, yn hysbysebu swyddi graddedig, swyddi rhan-amser, gwaith yn ystod y gwyliau, swyddi preswyl a lleoliadau
- Lleoliadau profiad gwaith: lleoliadau gwaith taledig 6-10 wythnos trwy’r rhaglen GO Wales
- Blas ar Waith: cyfnodau o brofiad gwaith byr, di-dâl trwy’r rhaglen GO Wales
- Digwyddiadau: teithiau bws i ffeiriau graddedigion; cyflwyniadau gan gyflogwyr a chyfweliadau
- Gwasanaeth gwirio CV a cheisiadau di-dâl: cyfle i gael gwirio eich CV neu ffurflen gais er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cyflwyno eich hun yn y ffordd orau bosibl i gyflogwyr
- Paratoi ar gyfer cyfweliad: gallwn eich helpu ar sail un-i-un yn ogystal â chynnal cyfweliadau ffug
- Cyfleusterau cyfrifiadur a ffôn di-dâl
- Llyfrgell gwybodaeth am yrfaoedd helaeth: gyda llawer o ffeiliau cyfeiriadol, canllawiau, llyfrau, fideos, taflenni a chyhoeddiadau am ddim
- Papurau newydd lleol gyda gwybodaeth am swyddi
- Sesiynau paratoi ar gyfer gwaith a chyfleoedd
- Ymarfer profion seicometrig
- Gwirfoddolwyr Glyndŵr – mae’r cyfleoedd gwirfoddoli a hysbysebir yn ffordd wych o hybu eich profiad a gwneud cysylltiadau newydd
- Gweithiwr Dros Dro Glyndŵr – cyfleoedd i ddod o hyd i waith dros dro ar y campws
Darganfyddwch fwy am gyflogadwyedd ein graddedigion