
Cymorth astudio
Mae Prifysgol Glyndŵr yn ymroddedig i gefnogi ein myfyrwyr er mwyn gwneud y mwyaf o’u potensial academaidd.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cefnogi mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, cymryd nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau.
Gall myfyrwyr wneud apwyntiadau gyda thiwtoriaid Sgiliau Academaidd sy’n ymroddedig i helpu i ddelio gydag elfennau ymarferol gwaith prifysgol.
Unwaith y byddwch wedi cofrestru ym Mhrifysgol Glyndŵr, byddwch yn gallu cael gafael ar gyfoeth o ganllawiau a deunydd ar-lein i’ch helpu i gyflawni’r canlyniadau gorau posib yn ystod eich amser gyda ni.
Rydym hefyd yn cynnig cyngor ynghylch defnyddio cyfleusterau TG a llyfrgell, ac mae’r tiwtoriaid yn cydweithio’n agos gyda’r meysydd hyn o’r Brifysgol er mwyn sicrhau eich bod yn cael y cymorth sydd arnoch ei angen.



