Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Cymorth anabledd

Cymorth anabledd

Ym Mhrifysgol Glyndŵr credwn y dylai addysg uwch fod ar gael i bawb, ac yr ydym yn ymdrechu i ddarparu’r hygyrchedd gorau posibl i fyfyrwyr anabl.

Mae llawer o fyfyrwyr yn cyrraedd yn gwybod fod ganddynt anghenion unigol o ran anabledd neu wahaniaeth dysgu penodol, megis dyslecsia. Daw eraill yn ymwybodol fod ganddynt anghenion sydd angen sylw unigol ar ôl iddynt gyrraedd.

Gallwch ddatgelu anabledd ar unrhyw adeg yn ystod eich cyfnod o astudio.

Gall y Tîm Cefnogi Anabledd a Dysgu helpu gydag anghenion sy’n deillio o nam neu anabledd. Beth bynnag fo arnoch ei angen, mae’r Tîm yn ceisio darparu arweiniad a chefnogaeth trwy gydol eich cyfnod o astudio. Yr ydym hefyd yn gallu cynnig ystod o wasanaethau i’ch helpu chi o’r adeg yr ydych yn dewis datgelu anabledd neu wahaniaeth dysgu. Mae ein Cynghorydd Anabledd yn cynnig apwyntiadau os ydych yn dymuno trafod unrhyw faterion yn ymwneud ag anabledd neu gefnogaeth dysgu, yn anffurfiol ac yn gyfrinachol.  

Mae’r Ganolfan Asesu ym Mhrifysgol Glyndŵr yn darparu gwasanaeth asesu, cyngor a hyfforddi proffesiynol i bobl anabl sy’n mynychu Addysg Uwch. Yr ydym yn darparu Asesiadau o Anghenion Astudio i fyfyrwyr sydd yn gymwys ar gyfer y Lwfans Myfyrwyr Anabl, sy’n golygu siarad gyda chi am eich anabledd ac unrhyw rwystrau a brofwch ac yna yn argymell y strategaethau a’r offer cefnogi a fydd yn eich galluogi chi i gael gafael ar eich addysg ar yr un lefel â’u cydfyfyrwyr.

Am fwy o wybodaeth am gefnogaeth anabledd, cysylltwch â’r Ddesg Gwybodaeth Myfyrwyr i ddechrau:

neu ebost: disability@glyndwr.ac.uk

Ein cymorth i fyfyrwyr