Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Cyfleusterau TG

Cyfleusterau TG

Mae gan Brifysgol Glyndŵr gyfleusterau cyfrifiadurol rhagorol wedi’u lleoli yn agos at ble mae eu hangen o fewn eich pwnc neu yn y llyfrgell a’r mannau mynediad agored. Mae buddsoddiad diweddar wedi ehangu ein mynediad Diwifr WiFi trwy’r campws cyfan.

Mae gan ein cyfrifiaduron i gyd fynediad rhyngrwyd llawn. Byddwn yn eich darparu gydag ystod eang o gyfleusterau TG eraill megis eich cyfrif ebost eich hun, storfa ffeiliau, rhaglenni safonol ac arbenigol a chyfleusterau argraffu. 

Mae gennym 13 o ystafelloedd cyfrifiadurol trwy’r Brifysgol. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain ar gyfer defnydd mynediad agored cyffredinol, er bod yna hefyd nifer o labordai TG arbenigol ar gyfer meysydd arbennig fel Cyfrifiadura, Peirianneg, a Chelf a Dylunio.

Mae Prifysgol Glyndŵr yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i’r eithaf. Mae gennym fewnrwyd myfyrwyr gynhwysfawr yn cynnwys ystod o gyngor ac arweiniad. Mae llawer o nodiadau darlithoedd a chynnwys rhaglen ein rhaglenni ar gael ar-lein trwy ein Hamgylchedd Rhith-ddysgu. Mae llawer o ddefnyddiau astudio megis cronfeydd data ar-lein, e-gyfnodolion a gwybodaeth catalog llyfrgell ar gael ar-lein oddi ar gyfrifiaduron y campws. Gellir cael gafael arnynt adref hefyd pe bai’n well gennych astudio yno.  

Mae Gwasanaethau TG yn darparu cymorth a chyngor hwylus ac effeithiol ar bob agwedd o gyfrifiadura gan gynnwys caledwedd, meddalwedd a mynediad a defnydd o rwydweithiau. Gallwch hefyd roi gwybod am unrhyw ddiffygion gydag offer cyfrifiadurol cysylltiedig â rhwydwaith Prifysgol Glyndŵr.  Y Ddesg Gymorth TG yn adeilad y llyfrgell (Canolfan Edward Llwyd) yw’r man cyntaf i alw am bob ymholiad TG. 

Am fwy o wybodaeth am gyfleusterau a chefnogaeth TG, cysylltwch â’r Ddesg Gymorth TG ar 01978 293241 yn y lle cyntaf.

Ein cymorth i fyfyrwyr