Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Rhaglen Byw’n Iach

Mae bod yn iach yn rhan fawr o fod yn hapus. Mae byw’n iach yn golygu fod y ffordd yr ydych yn byw o ddydd i ddydd yn gwneud i chi deimlo’n ffit a da yn gorfforol ac yn feddyliol. Os nad oes cydbwysedd iach i’ch ffordd o fyw – er enghraifft trwy beidio ag ymarfer, bwyta deiet anghytbwys, ymhél â chyffuriau neu trwy gadw eich pryderon a’ch problemau i chi eich hun – rydych yn fwy tebygol o fynd yn sâl, cael trafferth canolbwyntio yn eich gwaith neu yn y coleg, a bod yn anhapus neu isel eich ysbryd.

Rhaglen Byw’n Iach

Mae eich ffordd o fyw yn cael effaith fawr ar sut ydych yn teimlo a’r hyn yr ydych yn ei gael allan o fywyd, yn awr ac yn y dyfodol. Felly mae’n syniad da darganfod mwy am sut i fyw’n iach. Er mwyn annog pobl i newid a gwella eu ffordd o fyw a’u harferion, rydym yn cynnig rhaglen byw’n iach. Mae’r pecyn hwn yn rhoi cyfle i bobl gynyddu eu hymwybyddiaeth o’r modd y gall y cyfuniad o gynllun bwyta’n iach a rhaglen o weithgareddau corfforol wedi’i monitro wella eu hiechyd a’u ffitrwydd. Mae’r Pecyn Byw’n Iach yn cynnwys rhaglen wyth-wythnos gyda’ch hyfforddwr ffordd o fyw yn cyfarfod â chi unwaith yr wythnos. 
    
Yn ystod yr wyth wythnos yma, dylech ddisgwyl:

  • Ymgymryd ag asesrwydd ffitrwydd
  • Derbyn rhaglen ffitrwydd bersonol
  • Cwblhau dyddiadur bwyd
  • Dysgu am wahanol weithgareddau corfforol
  • Dysgu am wahanol fwydydd

Dylai hyn arwain atoch:

  • Yn cael mwy o egni
  • Yn colli pwysau neu dynhau eich corff
  • Yn hybu eich hunan-ddelwedd
  • Yn teimlo’n iachach

Pris: £75 am raglen wyth-wythnos

Fel arall gallwch ddewis un o blith opsiynau’r ystafell ffitrwydd isod.
Ffi gychwynnol o £22 (tâl cymunedol £38.50) sy’n cynnwys sesiwn ragarweiniol am ddim.

Opsiwn 1 – Talu wrth chwarae: £2.45 yr ymweliad (tâl cymunedol £3.75).
Opsiwn 2 – Archeb Sefydlog: £11 y mis (tâl cymunedol £22) *
*Gymaint y ymweliadau ag y dymunwch y mis
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Phrifysgol Glyndŵr ar 01978 293275.

Llyfrgell Hybu Iechyd

Erbyn hyn, mae Llyfrgell Hybu Iechyd, rhan o Wasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru, wedi ei sefydlu yn llyfrgell y Brifysgol, gan gynnig ystod eang o wybodaeth am bynciau amrywiol megis Alcohol, Cyffuriau, yr Henoed, Rhywioldeb Iach, Iechyd Meddwl, Maeth, Ysmygu a Straen.

Ein cymorth i fyfyrwyr