Campws Wrecsam
Campws Wrecsam yw un o’r prif leoliadau chwaraeon yng Ngogledd Cymru. Mae’r cyfleusterau ar y safle yn cynnwys neuadd chwaraeon, dau gae glaswellt artiffisial, ystafell ffitrwydd a stiwdio ddawns/ystafell addysg.
Mae’r ganolfan chwaraeon wedi tyfu ers iddi agor ei drysau gyntaf. Erbyn hyn mae gennym sawl swyddog datblygu chwaraeon yn ogystal â chysylltiadau agos gyda chlybiau cymunedol a thîm gwyddor chwaraeon ac ymarfer Prifysgol Glyndŵr.
Campws Llaneurgain
Mae gan ganolfan wedi ei hadnewyddu Llaneurgain Glyndŵr neuadd chwaraeon a chyfleusterau newid. Cynhelir llu o weithgareddau yn y neuadd chwaraeon gan gynnwys badminton, pêl-rwyd, tennis bwrdd, pêl-droed pump-bob-ochr, pêl-fasged a phêl-foli. Gellir trefnu gweithgareddau hamdden eraill hefyd (os ydynt ar gael). Mae’r campws hefyd yn darparu cyrsiau cyfeiriadu a rhedeg traws-gwlad i bobl a cheffylau.