Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Chwaraeon ym Mhrifysgol Glyndŵr

Chwaraeon ym Mhrifysgol Glyndŵr

Chwaraeon ym Mhrifysgol Glyndŵr yw ein canolfan chwaraeon, wedi’i lleoli yng nghalon campws Plas Coch Prifysgol Glyndŵr. Y mae’n un o leoliadau chwaraeon blaenllaw Gogledd Cymru sydd wedi cynnal sawl digwyddiad chwaraeon yn ogystal â chynadleddau. 

Mae yna ystod eang o gyfleusterau ar gael yn y ganolfan. Mae gennym ddau gae artiffisial â llifoleuadau – cae â sylfaen dŵr o safon ryngwladol ar gyfer hoci a chae â sylfaen tywod ar gyfer pêl-droed yn bennaf – a Labordy Perfformiad Dynol. Mae ein neuadd chwaraeon 1000m.sg. yn cynnwys llawr stripiau masarnen â sbrings ac yn cynnwys stiwdio ddawns, ystafell ffitrwydd a balconi gwylwyr. 

Mae Chwaraeon ym Mhrifysgol Glyndŵr yn rhedeg nifer o ddosbarthiadau fel ioga, cicbocsio a chamu, ac yn cefnogi gweithgareddau amrywiaeth o dimau chwaraeon fel hoci, pêl-droed a phêl-fasged. Mae’r ganolfan hefyd yn cynnig Pecynnau Byw’n Iach i fyfyrwyr sy’n dymuno gwella eu hiechyd trwy ddeiet a ffitrwydd. 

Mae’r ganolfan chwaraeon wedi tyfu ers i ni agor ein drysau am y tro cyntaf. Gallwn yn awr frolio sawl Swyddog Datblygu Chwaraeon yn ogystal â chysylltiadau agos gyda chlybiau cymunedol a’r tîm Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer o fewn Prifysgol Glyndŵr.

Gall myfyrwyr sy’n astudio ar raglen lawn amser ar brif gampws Plas Coch wneud cais am gefnogaeth trwy ein cynllun Ysgoloriaeth a Bwrsarïau arloesol.

Cysylltwch â Chwaraeon ym Mhrifysgol Glyndŵr am fwy o wybodaeth:

Rhif ffôn: 01978 293275
Ebost: sports@glyndwr.ac.uk

Ein cymorth i fyfyrwyr