Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Ein cymorth i fyfyrwyr

Ein cymorth i fyfyrwyr

“Mae’r staff bob amser yn gyfeillgar ac yn gallu rhoi cyngor pan fod angen – nid yw’n ormod o drafferth iddynt esbonio pethau’n fwy manwl.”*

Mae Prifysgol Glyndŵr yn cynnig ystod eang o wasanaethau cymorth i fyfyrwyr i’ch helpu chi i lwyddo yn ystod eich cyfnod yma. Mae’r rhain yn amrywio o wasanaethau lles, gan gynnwys darpariaeth gofal iechyd a chymorth anabledd, i wasanaethau ymarferol fel llungopïo ac e-bostio.

Y canolbwynt ar gyfer llawer o’r gwasanaethau hyn yw ein Desg Gwybodaeth Myfyrwyr (SID). Mae hon wedi’i lleoli yng Nghanolfan Edward Llwyd, sy’n gartef i lawer o’r timau gwasanaeth cymorth yn ogystal.

Mae’r ddesg wedi’i staffio gan ein tîm Derbyniadau ac Ymholiadau, gyda chymorth ein Llysgenhadon Myfyrwyr, felly byddwch yn delio’n uniongyrchol gyda myfyrwyr oedd â’r un cwestiynau ac ymholiadau yn y gorffennol ag y gallai fod gennych chi. Bydd SID yn eich rhoi chi ar ben ffordd ynglŷn â chwestiynau yn amrywio o faterion ariannol i leoliad pethau o gwmpas y campws. Gallant hefyd eich rhoi chi mewn cysylltiad gydag adrannau unigol pe baech eisiau siarad gyda rhywun mewn mwy o fanylder am wasanaeth penodol.

Dilynwch y dolenni yn y ddewislen ar y chwith i ddysgu mwy am y gwahanol wasanaethau neu, am fwy o wybodaeth am unrhyw un o’n gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr, cysylltwch â SID:

* sylw gan fyfyriwr, Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethaol 2011

 

Ein cymorth i fyfyrwyr