Head divider

Campws Stryt y Rhaglyw

Ysgol Gelf a Dylunio Gogledd Cymru

Campws Stryt y Rhaglyw

Mae Ysgol Gelf a Dylunio Gogledd Cymru wedi ei lleoli mewn adeilad Fictorianaidd ysblennydd, yng nghanol y dref ac wedi ei addasu’n stiwdios. Adnewyddwyd yr adeilad yn ddiweddar i gynnig cyfleusterau a gweithdai i’r holl feysydd celfyddyd a gynigir ym Mhrifysgol Glyndŵr.

Mae’r Ysgol yn cynnwys ei siop gelf ei hun sy’n gwerthu deunyddiau am brisiau sy’n llawer is nag mewn llefydd eraill. Mae Caffi Inspirations yn rhoi cyfle i chi fwynhau bwyd a diod mewn amgylchedd siriol.

Mae’r Ysgol Gelf a Dylunio wedi datblygu ei diwylliant artistig ei hun, sy’n amlwg yr eiliad yr ewch i mewn i’r adeilad. Mae murluniau ac arddangosiadau yn dangos y ddawn eithriadol sy’n bodoli mewn celf a dylunio ym Mhrifysgol Glyndŵr ac yn ychwanegu at naws hamddenol Stryt y Rhaglyw.