Safle Hanesyddol ym Mhrifysgol Glyndŵr Llaneurgain
Ynghlwm wrth Gampws Llaneurgain Prifysgol Glyndŵr y mae Llŷs Edwin. Mae hwn yn safle tŷ mawr, caerog, llys neu gastell sy’n dyddio’n ôl i’r cyfnod canoloesol, yr wythfed ganrif o bosib. Mae arwyddocâd Llŷs Edwin ynghyd ag uchelwyr Sir y Fflint yn un o ystryw a phwysigrwydd gwleidyddol o fewn Hanes Cymru.
Er i’r safle ei hun gael ei gloddio yn ôl yn 1931, ers hynny, fodd bynnag, ac eithrio ychydig iawn o ddiddordeb, mae’r safle wedi cael ei esgeuluso, wedi tyfu’n wyllt ac wedi mynd yn angof. Mae cyfathrebu ac ymgynghori cyfredol gyda CADW wedi cyflwyno’r posibilrwydd o atgyweirio safle treftadaeth o bwys.
Trwy wneud hyn, mae Prifysgol Glyndŵr mewn sefyllfa i sirchau sianeli hanfodol, ymhlith eraill, ar gyfer twristiaeth gynaliadwy gadarn, cadwraeth amgylcheddol, ac addysg atgyweirio, treftadaeth a sgiliau sy’n gysylltiedig â hanes lleol a chenedlaethol gyda’r potensial i wella a darparu cyfleoedd datblygu pellach i bawb.
Gyda chymorth cyfranogiad a chefnogaeth cymunedol, gellir cryfhau anghenion cynaliadwy y gymuned leol a chenedlaethol trwy agwedd ben i waered mewn datblygu sydd yn sylfaenol wrth gadw hanes Cymru yn ddiogel ar gyfer cenedlaethau i ddod. Mae hwn yn brosiect cyffrous i ni yma yn Llaneurgain, sydd â’r potensial i hysbysu ac addysgu cymunedau, codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd treftadaeth Cymru a chynnal y safle ar gyfer cenedlaethau i ddod.