|
Rhydych chi yma:
Hafan > Ein campysau a’n cyfleusterau > Prifysgol Glyndwr Llaneurgain > Llaneurgain a’r ardal leol
|
||
|
|
Llaneurgain a’r ardal leol
Lleoliad ardderchogWedi’i leoli yn nghanol cefn gwlad hardd gogledd Cymru, mae ganddo’r fantais hefyd o fod yn llai na 15 milltir i ffwrdd o Wrecsam a Chaer. Mae yna orsaf reilffordd prif lein yn y Fflint gwta 4 milltir i ffwrdd, ac mae’r campws wedi ei leoli gerllaw Ffordd Gyflym Gogledd Cymru, yr A55, gan ei gysylltu’n gyflym a rhwydwaith o draffyrdd y DU.
Siopa a’r celfyddydau o fewn cyrraedd rhwyddMa tref farchnad hanesyddol yr Wyddgrug gwta dair milltir i ffwrdd. Yn ogystal â bod yn ganolfan siopa, llywodraeth leol a chyflogaeth, mae’r Wyddgrug yn gartref i’r enwog Clwyd Theatr Cymru, sy’n denu rhai o’r enwau mwyaf ym myd theatr, diwylliant a’r celfyddydau yn rheolaidd. Mae gan yr Wyddgrug hefyd archfarchnad Tesco 24 awr, canolfan hamdden ac ystod eang o adnoddau eraill gan gynnwys marchnad stryd bob dydd Mercher a dydd Sadwrn.
Sir y Fflint – sir o gyferbyniadauSir y Fflint yw un o’r siroedd hynaf a mwyaf neilltuol yng Nghymru. Mae ganddi hanes cyfoethog ac yn gartref i bopeth o ffynhonnau hanesyddol i oleudai hardd a pharciau gwledig. Mae gan y sir gyfoeth o weithgareddau hamdden a diwylliant a chefn gwlad hardd, heb ei ddifetha. Yn yr ardal ehangach, mae’n lle gwych i fyw ar gyfer pobl sy’n mwynhau gweithgareddau awyr agored megis beicio mynydd, chwaraeon dŵr, cerdded, mynydda a dringo creigiau – i gyd mwy neu lai ar garreg y drws.
Harddwch naturiolMae Bryniau Clwyd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol; o’u man uchaf, Moel Famau, sy’n 550m, ceir golygfeydd trawiadol dros Aber Dyfrdwy, gyda Lerpwl i’r gogledd ac Eryri i’r gorllewin. Yn ddiweddar, enwyd Traphont Ddŵr Pontcysyllte, ger Llangollen yn Sir Ddinbych, yn Safle Treftadaeth y Byd diweddaraf y DU, a gerllaw mae Glannau Dyfrdwy yn gartref i rinc sglefrio rhew maint Olympaidd.
Goleuadau llachar a gweithgareddau awyr agoredDiolch i ffordd a chysylltiadau rheilffordd rhagorol, mae dinasoedd Manceinion a Lerpwl yn hawdd eu cyrraedd o’r campws, yn yr un modd â’r ffordd arfordirol drawiadol sy’n rhedeg yn gyfochrog â Chonwy, Pen y Gogarth, Deganwy a thu hwnt. |
|