
Ein cyrsiau
Ar ein campws yn Sir y Fflint, rydym yn ymroddedig i ddarparu addysg uwch a gwybodaeth arbenigol trwy gyrsiau arloesol, blaengar mewn astudiaethau gwledig a thirol.
Mae ein cyrsiau yn cyfuno astudiaeth ddamcaniaethol a sgiliau ymarferol a fydd yn eich gwneud yn raddedig hynod gyflogadwy, un a fydd yn gallu cyfrannu’n llwyddiannus i ba faes bynnag y dewiswch fynd iddo ar ôl graddio.
Mae ein darlithwyr, cyrsiau a chyfleusterau arbenigol yn cyfuno i greu amgylchedd dysgu ardderchog ar gyfer myfyrwyr gwledig a thirol, un sydd wedi cael ei ddatblygu ers dros 50 mlynedd ac yn eich galluogi i gael y mwyaf o’ch maes pwnc dewisol.
Yn anad dim, rydym yn gwbl ymroddedig i ddal ati i ddatblygu’r cyfleusterau, y cyrsiau a’r cwricwlwm sydd ar gael yn ein campws yn Sir Fflint; mae rhaglen adnewyddu gwerth £7m ar y gweill i wella’r profiad myfyriwr.
Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i wneud cais ar gyfer unrhyw un o’r cyrsiau hyn ar ein campws yn Sir y Fflint, cysylltwch â’n tiwtoriaid derbyn. Gellir dod o hyd i fanylion ar dudalennau pwnc unigol trwy ddilyn y dolenni uchod.



