|
Rhydych chi yma:
Hafan > Ein campysau a’n cyfleusterau > Prifysgol Glyndwr Llaneurgain > Cyfleusterau
|
||
|
|
Cyfleusterau
Gwnaethpwyd buddsoddiad sylweddol yn ddiweddar yn yr adeiladau a’r campws, sydd erbyn hyn yn meddu ar ddarlithfeydd, cyfleusterau cynadledda, neuadd chwaraeon, gweithdai a labordai a llety myfyrwyr wedi’u hadnewyddu. Mae myfyrwyr yn Llaneurgain yn cael y cyfle i ddefnyddio cyfleusterau Coleg Glannau Dyfrdwy, fel yr uned geffylau a'r tai gwydr ar y safle. Sports Cyfleusterau Yn y neuadd chwaraeon wedi’i hadnewyddu ar Gampws Llaneurgain, gellir chwarae pêl-fasged, badminton, pêl-rwyd, tennis bwrdd, pêl-droed pump bob ochr a phêl-foli. Croesewir gweithgareddau chwaraeon eraill, â chymryd eu bod ar gael. Gall myfyrwyr ymgymryd â gweithgareddau trwy gydol y dydd (â chymryd eu bod ar gael, gweler manylion llogi’r neuadd). Croesewir unrhyw archeb adloniannol masnachol a gellir ei llogi am sesiynau unigol neu gael ei bloclogi. Gellir defnyddio’r neuadd hefyd ar gyfer digwyddiadau, hyrwyddiadau a gweithgareddau addysgol (opsiwn Arlwyo ar gael). Mae’r campws hefyd yn darparu cyrsiau cyfeiriadu a rhedeg traws gwlad, ar gyfer pobl a cheffylau. Yn ogystal â’r cyfleusterau chwaraeon ar gampws Llaneurgain, bydd y myfyrwyr yn gallu gwneud defnydd o’r holl gyfleusterau sydd ar gael trwy’r Ganolfan Chwaraeon ar gampws Wrecsam. Mae’r rhain yn cynnwys cae hoci rhyngwladol sylfaen-dŵr, cae sylfaen-tywod ar gyfer pêl-droe, y Labordy Perfformiadau Dynol a, thu mewn i’r Ganolfan Chwaraeon, llawr pren sbringog 1000 medr sgwâr, stiwdio ddawns, ystafell ffitrwydd a chyfleusterau i wylwyr. Canolfan Seminar ac Addysg Llaneurgain Prifysgol Glyndŵr Er mwyn gwasanaethau ein hanghenion academaidd, mae gennym ystafelloedd seminar/cynhadledd ac addysgu bach a mawr, y mwyafrif ohonynt wedi eu hofferu gyda safon ragorol o ddarpariaeth TG. Gellir llogi’r cyfleusterau rhagorol hyn ar gyfer defnydd addysgol a chorfforaethol allanol. O fewn ein gwasanaeth gallwn gynnwys yn ein pris, yr opsiwn o ddarparu gwasanaeth arlwyo. Uned Geffylau wedi’i Chymeradwyo gan y BHS
Mae’r Uned Geffylau wedi’i Chymeradwyo gan y BHS a’r Ganolfan Arholiadau yn darparu myfyrwyr gydag ystod o gyfleusterau ardderchog sy’n addas ar gyfer sesiynau a digwyddiadau ymarferol. Mae’r cyfleusterau pwrpasol rhagorol ar y campws yn cynnwys arena dan do gydag oriel wylwyr (50x30), arena awyr agored â llifoeluadau (60x40), stablau, padogau a dau gwrs traws gwlad. Mae’r Uned Geffylau wedi’i Chymeradwyo gan y BHS yn cynnal ystod eang o ddigwyddiadau gydol y flwyddyn, yn amrywio o gystadlaethau a chlinigau i sioeau a digwyddiadau hyfforddi. Cynhelir digwyddiadau trwy’r adeg a bydd digonedd o gyfleoedd i’r rheiny nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â’r digwyddiadau i’w gwylio. Llety ar y campws
Ar hyn o bryd mae Neuadd Corbishley, y llety myfyrwyr yng nghampws Sir Fflint, wrthi’n cael ei hadnewyddu’n helaeth. Bydd yr adnewyddiad yma yn darparu llety modern, cyfforddus mewn lleoliad hardd i’r myfyrwyr hynny sy’n dewis byw ar y campws. Fe fydd yna gyfleusterau ardderchog ar y cyd gan gynnwys ystafell gyffredin a phatio / man barbeciw tu allan, sy’n darparu lle ychwanegol ar gyfer cymdeithasu ar nosweithiau braf.
Mae’r neuaddau preswyl myfyrwyr wedi eu lleoli yn ganolog ar y campws, gan gynnig lle cyfleus i fyw tra’n astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr Llaneurgain. Mae ganddynt hefyd olygfeydd ardderchog o’r tiroedd.
Gellir defnyddio wi-fi ym mhob ystafell, gan eu gwneud yn ddelfrydol i’r rheiny sydd yn hoffi astudio mewn heddwch ac yn nhawelwch eu hystafelloedd. Mae’r niferoedd yn gyfyngedig, felly fe’ch cynghorir i wneud cais am lety yn fuan. Am fwy o wybodaeth a ffurflenni cais am lety, gweler ein tudalennau llety. Cyfleusterau chwaraeon
Mae canolfan Llaneurgain Glyndŵr ar ei newydd wedd yn darparu neuadd chwararon a chyfleusterau newid. Mae’r neuadd chwaraeon yn hwyluso gweithgareddau chwaraeon amrywiol, megis badminton, pêl-rwyd, tennis bwrdd, pêl-droed 5 bob ochr, pêl-fasged a phêl-foli. Croesewir gweithgareddau adloniannol eraill hefyd (os ydynt ar gael). Mae’r campws hefyd yn darparu cyrsiau cyfeiriadu a rhedeg traws gwlad, ar gyfer pobl a cheffylau.
Mae’r neuadd hefyd yn lle delfrydol i gynnal digwyddiadau. Gall y digwyddiadau hyn fod yn rhai addysgol, corfforaeth neu ddatblygiadol eu natur. O fewn ein darpariaeth, gallwn hefyd gynnig gwasanaeth arlwyo a mynediad i ddarlithfeydd ar gyfer seminarau a phrydau bwffe. Gyda’r nosau yn ystod yr wythnos, defnyddir ein neuadd chwaraeon gan glybiau a chymdeithasau allanol amrywiol. Mae yna le ac amseroedd yn dal ar gael ar hyn o bryd, ond mae’r diddordeb yn cynyddu. Adnoddau dysgu
Mae Prifysgol Glyndŵr a Choleg Glannau Dyfrdwy wedi ymuno mewn partneriaeth strategol i gyflenwi campws tirol unigryw ar safle Coleg Garddwriaeth Cymru. Bydd hyn yn cynnig darpaeiaeth addysg uwch a phellach o fewn rhannau penodol o’r safle. Mae’r gwasanaeth hwn yn cynnwys trefniadau benthyg o’r ddeutu a chatalog ar y cyd gyda Llyfrgelloedd Prifysgol Bangor, yn ogystal â mynediad i’r ystod llawn o adnoddau sydd ar gael yng ngogledd Cymru trwy gynllun LINC y Gogledd. Gall myfyrwyr ar y ddau gampws elwa o’r cymorth a gynigir gan staff Llyfrgell cymwynasgar a chyfeillgar Prifysgol Glyndŵr trwy gysylltu ag enquirydesk@glyndwr.ac.uk i ddechrau arni. |
|