|
|
Prifysgol Glyndŵr Llaneurgain
Lleoliad prydferth ar gyfer dysgu am y tirWedi ei leoli yn Llaneurgain, Sir y Fflint ac yn edrych dros Aber Dyfrdwy, mae campws newydd Llaneurgain Prifysgol Glyndŵr wedi ei osod yn nghanol cefn gwlad prydferth Gogledd Cymru. Mae campws Llaneurgain yn enghraifft o’r modd y mae’r Brifysgol yn ehangu. Mewn lleoliad gwledig sydd eto’n gyfleus, yn union oddi ar yr A55,mae’n ganolfan ar gyfer holl ddarpariaeth addysgol y Brifysgol sy’n ymwneud â’r tir. Mae gan y campws y fantais o fod yn llai na 15 milltir o Wrecsam ac o Gaer. Mae tref farchnad hanesyddol yr Wyddgrug yn ddim ond 3 milltir i ffwrdd.
Cyfleusterau i fyfyrwyr a busnesGwnaethpwyd buddsoddiad sylweddol yn ddiweddar yn yr adeiladau a’r campws, sydd erbyn hyn yn meddu ar ddarlithfeydd, cyfleusterau cynadledda, neuadd chwaraeon, gweithdai a labordai a llety myfyrwyr wedi’u hadnewyddu. Mae myfyrwyr yn Llaneurgain yn cael y cyfle i ddefnyddio cyfleusterau Coleg Glannau Dyfrdwy, fel yr uned geffylau a'r tai gwydr ar y safle. Mae’r stad wrthi’n cael ei datblygu i ddarparu ystod eang o amgylcheddau dysgu a chyfleusterau defnydd tir i fyfyrwyr, gan gynnwys:
Rhowch eich astudiaethau ar waithMae’r lleoliad trawiadol a’r cyfleusterau rhagorol yn lle delfrydol ble gall ein myfyrwyr tirol roi eu hastudiaethau a’u haddysg ar waith. Gall myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr sydd wedi eu lleoli ar gampws Llaneurgain hefyd wneud defnydd o bopeth sydd gan gampws Wrecsam i’w gynnig. |
|