
Prifysgol Glyndŵr, Llanelwy
Wedi’i leoli yn Llanelwy, sir Ddinbych, mae Prifysgol Glyndŵr, Llanelwy yn ganolfan flaenllaw ar gyfer ymchwil a datblygiad technoleg opto-electronig flaengar.
Mae’r safle yn cynnwys ysgolheigion sy’n cynnal ymchwil i feysydd hynod arbenigol o dechnoleg, ynghyd â busnesau sy’n ceisio datblygu’r dechnoleg honno er dibenion masnachol. Mae’r agwedd fentrus hon o bartneriaeth yn gwneud Prifysgol Glyndŵr, Llanelwy yn rhan allweddol o’r Brifysgol a’r economi leol, genedlaethol a rhyngwladol ehangach.



