|
|
Campws Plas CochWedi ei leoli ar gyrion Wrecsam, mae campws Plas Coch wedi’i leoli rhwng clwb pêl-droed Wrecsam a pharc manwerthu sy’n cynnwys Sainsbury’s a nifer o fwytai a siopau eraill. Mae’r campws mewn ardal agored braf gyda golygfeydd o’r bryniau cyfagos. Mae’n agos iawn at y system ffordd fawr sy’n cysylltu Wrecsam â Chaer, Lerpwl, Manceinion a Birmingham. Mae Plas Coch yn cynnig cyfleusterau astudio mewn amgylchedd diogel, hygyrch ac ysgogol. Mae gan y campws pwrpasol dros 70 o ddarlithfeydd, ystafelloedd seminar a chynadleddfeydd gydag amrywiaeth eamg o weithdai a labordai. Yn ogystal mae yna lyfrgell a chyfleusterau adnoddau dysgu a chanolfan chwaraeon. Mae Techniquest@NEWI, y ganolfan darganfod gwyddoniaeth, wedi ei leoli ar gampws Plas Coch ac ar agored i’r cyhoedd. Mae’r ganolfan yn cefnogi addysg gwyddoniaeth a thechnoleg. Hefyd ar y campws mae yna nifer o lefydd rhagorol i yfed a bwyta gan gynnwys ffreutur Scholar’s Rest a thair siop goffi. Mae Pentref Myfyrwyr NEWI wedi ei leoli ar ochr ogleddol y campws, hep fod nepell o’r llyfrgell, yr archfarchnadoedd ac Urdd y Myfyrwyr. Canolfan y Diwydiannau Creadigol
Canolfan y Diwydiannau Creadigol Gan adlewyrchu pwysigrwydd cynyddol y diwydiannau creadigol i ddatblygiad economaidd yr ardal, bydd Canolfan y Diwydiannau Creadigol newydd Prifysgol Glyndwˆ r a fydd yn costio pum miliwn o bunnoedd yn adeilad ecogyfeillgar modern a gynlluniwyd i gydweddu ag adeiladau presennol y campws. Gwybodaeth bellach >>
Canolfan y Plentyn, y Teulu a'r Gymdeithas Yn sgil ymagwedd arloesol Llywodraeth y Cynulliad at ddatblygiad plentyn, mae Prifysgol Glyndwˆ r yn buddsoddi dwy filiwn o bunnau mewn Canolfan newydd i’r Plentyn, y Teulu a’r Gymdeithas. Wedi ei hariannu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, mae’r Ganolfan wedi ei seilio ar gysyniad Sgandinafaidd, a rhydd hyn y cyfle i’r rhai sy’n gweithio ym maes datblygiad plentyn i fireinio eu sgiliau mewn modd academaidd ac ymarferol ynghyd â darparu cyfleuster rhagorol ar gyfer gweithgareddau ymchwil addysgol. Gwybodaeth bellach >> |
|