|
Rhydych chi yma:
Hafan > Ein campysau a’n cyfleusterau > Oriel Sycharth > Arddangosfeydd blaenorol 2011
|
||
|
|
Arddangosfeydd blaenorolMister Mercer 31 Mawrth 2011 - 31 Awst 2011 Mae gan yr artistiaid ddiddordeb mewn pensaernïaeth, gofod a sgil-effeithiau penderfyniadau annirnadwy a wnaed ynghylch amgylcheddau adeiledig. Trwy gyfrwng paent, fideo a gosodwaith, maent yn dangos hoffter o felancoli llefydd anial ac amhariadau rhyfedd ar ffurfiau a delweddau sy’n bodoli’n barod.
Arddangosfa bresennolYM MHOB FFORDD NEU LE / OLLERPLEX UN-PLEX MELANIE COUNSELL - SEAN EDWARDS - VICKY FALCONER - IRENA KALODERA - MARGARET MALCOLM - FLORENCE PARADEIS - EXTENDED PLAY - KIEREN REED - HUGUES REIP - SPLITT 12 Hydref 2011 – 17 Chwefror 2012 Mae teitl yr arddangosfa yn gydnabyddiaeth chwareus o leoliad Oriel Sycharth. Ystyrir ei lleoliad daearyddol fel mantais gan Melanie Counsell, sy’n dod â chriw amryfal ac amrywiol o artistiaid o Gymru, yr Alban, Lloegr a Ffrainc at ei gilydd, gan roi cyfle unigryw iddynt fentro a rhoi tro ar waith celf heb ei brofi, heb ei ddatrys neu heb ei weld hyd yma. Mae’r arddangosfa yn cynnwys ffotograffau, cerfluniau, cerddoriaeth, gwaith sain a pherfformiad gan artistiaid sy’n gweithio mewn ffyrdd amrywiol ac ar wahanol gyfnodau yn eu gyrfaoedd, a phob un yn cynnig sampl fechan o’u harfer presennol.
|
|