Head divider

Canolfan y Plentyn, y Teulu a'r Gymdeithas

Canolfan y Plentyn, y Teulu a'r Gymdeithas text

Cafodd Teulu a Chymdeithas ym Mhrifysgol Glyndŵr ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru er mwyn trawsnewid yr agenda gofal plant yng Nghymru.

Mae’r Ganolfan yn seiliedig ar gysyniad Sgandinafaidd ac mae’n rhoi modd i’r rheiny  sy’n gweithio ym maes datblygiad plant i fireinio eu sgiliau yn academaidd ac yn ymarferol, ac mae’n darparu cyfleuster rhagorol ar gyfer gweithgareddau ymchwil addysgol.

Caiff y gwaith a wneir yn y ganolfan ei lywio yn gyson gan y wybodaeth a’r syniadau diweddaraf. Mae’r ganolfan yn feithrinfa weithredol ar yr un pryd â bod yn gartref i ymchwil sy’n ymateb i agendâu polisi cenedlaethol a rhyngwladol ac yn safle blaenllaw ar gyfer arfer gorau ym maes gofal plant yng Nghymru.

Mae’r ganolfan yn seiliedig ar ymagwedd integredig tuag at ddatblygiad plant ac mae felly yn cynnwys amrywiaeth eang o arbenigeddau megis iechyd, maeth, seicoleg plant, ymarfer corff ac addysg.

Ardal Chwarae y tu allan

 

 

Mae gan yr adeilad ei hun gyfleusterau ar gyfer babanod, plant bach a phlant cyn-ysgol, gan gynnwys llefydd chwarae dan do ac yn yr awyr agored, ystafelloedd cysgu, ac ystafell synhwyrau yn ogystal ag ystafelloedd seminar ac arsylwi.

Ystafell Synhwyrau

 

 

 

Defnyddir ein hystafell synhwyrau bwrpasol i helpu datblygiad plant sydd ag anableddau ac anghenion ychwanegol. Mae’r ystafell yn helpu i anghofio am y pethau sy’n tynnu eu sylw yn y byd tu allan ac mae’n defnyddio cerddoriaeth, lliwiau a siapiau i sbarduno’r plant neu i dynnu unrhyw straen oddi arnynt.

Ystafell Arsylwi

 

 

Mae ein hystafelloedd arsylwi yn galluogi myfyrwyr i arsylwi a monitro ymddygiad heb effeithio neu dresmasu’n uniongyrchol ar amgylchedd y plentyn.