
Canolfan y Diwydiannau Creadigol
Gan adlewyrchu pwysigrwydd cynyddol y diwydiannau creadigol i ddatblygiad economaidd yr ardal, mae Canolfan Diwydiannau Creadigol £5m newydd Prifysgol Glyndŵr yn adeilad ecogyfeillgar modern a gynlluniwyd i gydweddu ag adeiladau presennol y campws.
Mae’r ganolfan yn darparu canolbwynt ar gyfer gweithgareddau’n ymwneud â’r diwydiannau creadigol, gan hybu cydweithrediad rhyngddisgyblaethol ehangach ac yn cwmpasu pynciau amrywiol megis celf a dylunio, cyfrifiadura a pheirianneg.
Mae’n darparu canolbwynt ar gyfer datblygu diwylliant diwydiannau creadigol ond hefyd yn ysgogi datblygiad busnesau preifat a busnesau deillio a gysylltir â’r diwydiannau creadigol. O fewn y Brifysgol, mae’n helpu i ddatblygu’r cwricwlwm a chyflwyno dulliau addysgu arloesol pellach.
Agorwyd y ganolfan yn swyddogol gan Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, Ddydd Iau, Mawrth 31 2011
Bydd hefyd yn gartref newydd i BBC Cymru yn Wrecsam, gan gryfhau presenoldeb y BBC yng ngogledd ddwyrain Cymru ac yn darparu cyfleusterau cynhyrchu ar gyfer ei staff, ei gwesteion a’i chyfranwyr.
Mae’r ganolfan yn cynnwys stiwdios radio a theledu, gweithdai 3D, stiwdios dylunio, ystafelloedd TG, ystafelloedd hyfforddi Apple a chyfleusterau ôl-gynhyrchu sain a gweledol.
Trwy ddod â gwahanol ddisgyblaethau sy’n gysylltiedig â’r diwydiannau creadigol ynghyd, y gobaith yw y bydd yn darparu datrysiadau arloesol i broblemau masnachol yn ogystal â chyfrannu at dwf y diwydiannau creadigol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Meddai’r Athro Michael Scott, Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr: “Mae’r diwydiannau creadigol yn werth miliynau o bunnoedd i economi’r DU, a thrwy’r ganolfan newydd byddwn yn gallu chwarae rôl flaenllaw mewn darparu graddedigion gyda sgiliau amlddisgyblaethol uwch gan ddefnyddio’r cyfleusterau safon-diwydiant diweddaraf.”
Mae’r to sedwm hunanddyfrhau yn cadw’r nodweddion gwyrdd yn nhu blaen y Brifysgol a bydd yn cynyddu’r defnydd o ardd y Brifysgol.



