|
Rhydych chi yma:
Hafan > Ein campysau a’n cyfleusterau > Canolfan Hyfforddi a Datblygu Cyfansoddau Uwch
|
||
|
|
Canolfan Hyfforddi a Datblygu Cyfansoddau UwchYn ganlyniad partneriaeth arloesol rhwng Prifysgol Glyndŵr, Airbus, Coleg Glannau Dyfrdwy a Llywodraeth Cynulliad Cymru, bydd y ganolfan yn helpu miloedd o weithwyr a phrentisiaid Airbus i ddatblygu eu sgiliau gweithgynhyrchu cyfansoddau. Roedd lansiad y ganolfan ym mis Hydref yn garreg filltir arall i Brifysgol Glyndŵr fel partner arbenigol anhepgor ar gyfer diwydiant yng ngogledd Cymru.
Mae’r gallu i gynllunio, gweithgynhyrchu a rhoi deunyddiau cyfansawdd at ei gilydd yn hanfodol yn y diwydiant awyrennol. Mae’r defnydd o gyfansoddau mewn awyrennau yn helpu i fwyhau pwysau a chynllun awyren, a chan hynny yn gwella effeithlonrwydd a pherfformiad. HyfforddiantMae’r sgiliau a’r prosesau gweithgynhyrchu sydd eu hangen i gynhyrchu rhannau a chydrannau cyfansawdd yn wahanol i waith metalig cyfredol, felly mae hyfforddiant yn y sector tra medrus yma yn bwysig i weithwyr a phrentisiaid yn y diwydiant. Bydd y ganolfan yn galluogi myfyrwyr i symud ymlaen o lefel prentis crefft yn Airbus i fod yn Beiriannydd Siartredig yn sgîl cymwysterau a gyflenwir gan Brifysgol Glyndŵr ar bob lefel, gan gynnwys HNC/HND, gradd sylfaen, BSc, MSc a PhD. Datblygwyd MSc ac MRes mewn Cyfansoddau newydd y Brifysgol mewn cydweithrediad ag Airbus.
YmchwilTargedir ymchwil dan arweiniad Prifysgol Glyndŵr at ddatblygu dulliau gweithgynhyrchu a phrosesu cyflymach ar gyfer defnyddiau cyfansawdd a fydd yn helpu i gwrdd â galw am awyrennau a chyfansoddau yn gyffredinol yn y dyfodol. Mae’r Ganolfan yn croesawu ymholiadau gan ddiwydiant a’r byd academaidd i sefydlu cysylltiadau ymchwil gweithredol cydweithrediadol newydd. Gall prosiectau amrywio o ymgynghoriaeth hirdymor yn sgîl cynlluniau megis YaD Cydweithrediadol Bwrdd Strategaeth Technoleg, Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (PTG), cydweithrediadau wedi’u hariannu gan y Cyngor Ymchwil, Nawdd Ariannol Undeb Ewropeaidd ac ymchwil gytundebol.
ASTUTE – Technolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy UwchMae’r ganolfan yn rhan o brosiect Technolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy Uwch Cymru-gyfan gwerth £26m, sy’n anelu i helpu cwmnïau i ddatblygu cynnyrch mwy cynaliadwy trwy ddefnyddio cyfansoddau, lleihau costau gweithgynhyrchu neu gwtogi’r amser i’r farchnad trwy fabwysiadu technolegau cyfansawdd. A ydych yn wynebu unrhyw heriau technoleg yn eich cynlluniau busnes presennol neu arfaethedig? O dan ASTUTE daw pob Prifysgol yng Nghymru ynghyd i weld a allant gynnig ateb i chi. Ariannir ASTUTE yn rhannol gan Gronfa Gydgyfeirio Datblygu Rhanbarthol Ewrop yr UE trwy Lywodraeth Cymru. Am fwy o wybodaeth ewch i http://www.astutewales.com/ neu cysylltwch â Mark Gaddes m.gaddes@glyndwr.ac.uk Cysylltwch â’rAthro Richard Day Athro mewn Peirianneg Cyfansoddau Prifysgol Cymru Ffôn: +44(0)1978 293117 Mark Gaddes Uwch Swyddog Prosiect Ffôn: +44(0)01978 293978 |
|